‘Diddymu’r cap dau blentyn i fynd i’r afael â thlodi plant – dyma ry' ni wedi'i ddweud o’r cychwyn cyntaf’ - Plaid Cymru
‘Efallai bod Llafur yn dechrau sylweddoli na bleidleidiodd pobl drostynt y llynedd ar sail eu pardorwydd i geisio plesio rheiny ar y dde ac i fabwysiadu polisïau Torïaidd’ - Ann Davies AS
Mae tasglu tlodi plant Llywodraeth y DU wedi nodi mai codi'r cap dau blentyn yw'r ffordd fwyaf effeithiol o fynd i'r afael â thlodi plant.
Mae llefarydd gwaith a phensiynau Plaid Cymru, Ann Davies AS, wedi pwysleisio bod hyn yn rhywbeth y mae ei phlaid wedi bod yn galw amdano ers i'r polisi gael ei gyflwyno gan y Torïaid yn 2017.
Mae disgwyl i dlodi plant godi yng Nghymru o 32.3% ym mis Ionawr 2025 i 34.4% erbyn 2029.
Yn ddiweddar, adroddodd y Trussell Trust fod y risg o dlodi bwyd i deuluoedd â thri neu fwy o blant yn eithriadol o uchel gyda'r cap dau blentyn yn "cyfrannu'n sylweddol" at hynny. Fe wnaethon nhw hefyd adrodd y byddai diddymu'r polisi yn codi 28,900 o bobl yng Nghymru allan o galedi difrifol erbyn 2026/27.
Mae Plaid Cymru wedi galw ers tro byd am ddiddymu’r cap dau blentyn ac wedi cyflwyno cynigion a chefnogi gwelliannau yn San Steffan ac yn y Senedd.
Ym mis Gorffennaf 2024, cyflwynodd yr SNP welliant i Araith y Brenin yn galw am ddiddymu’r cap dau blentyn, a gefnogwyd gan Blaid Cymru ar y pryd. Fodd bynnag, pleidleisiodd pob AS Llafur o Gymru yn erbyn y gwelliant hwn, gan sicrhau bod y polisi’n parhau i gael ei weithredu.