Y Senedd o blaid caniatáu i bobl Cymru gynnal refferendwm ar ei lle yn yr Undeb.

Ddoe (dydd Mercher, Medi 23ain, 2026), cefnogodd y Senedd alwadau Plaid Cymru yn datgan y dylid caniatáu i bobl Cymru benderfynu ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. 

Mae'r bleidlais yn cefnogi'r mandad a roddwyd i Blaid Cymru yn etholiad mis Mai i weithredu ar eu lefel uwch uchelgais i Gymru, sy'n cynnwys rhoi llais i bobl Cymru ar eu dyfodol eu hunain, yn ôl AS Plaid Cymru. 

Mae'r cynnig yn nodi diwrnod hanesyddol yn hanes gwleidyddol Cymru yn ôl AS Plaid Cymru dros Fflint Wrecsam, Carrie Harper, wrth i Gymru fynnu'r pwerau angenrheidiol "i adeiladu cenedl fodern, ffyniannus, hyderus." 

Dywedodd AS Plaid Cymru, Carrie Harper:

"Roedd y bleidlais ddoe yn wirioneddol hanesyddol, wrth i'r Senedd gefnogi hawl Cymru i benderfynu ar ei dyfodol ei hun. 

"Tra bod Reform UK wedi ceisio siarad pobl Cymru i lawr a gwadu llais i’n cenedl- mae'r bleidlais hon yn gwneud yn glir unwaith ac am byth nad oes gan San Steffan hawl i rwystro hawl democrataidd pobl Cymru. 

"Wrth i San Steffan barhau i anwybyddu ein hanghenion, mae Plaid Cymru yn defnyddio'r mandad a roddwyd i ni gan bobl Cymru i sefyll i fyny dros ein cymunedau a mynnu'r pwerau sydd eu hangen arnom i adeiladu cenedl fodern, ffyniannus, hyderus."