Yfory, gall pobl Cymru fanteisio ar y cyfle i bleidleisio dros blaid a Phrif Weinidog sy'n barod ac yn fodlon i wasanaethu pobl Cymru, a bob amser yn sefyll i fyny dros y budd cenedlaethol, yn ol arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Wrth siarad heddiw (dydd Mercher 6 Mai), un diwrnod cyn etholiad y Senedd, esboniodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod gwerth gwasanaeth yn werth a fyddai'n ei arwain fel Prif Weinidog bob dydd.

Aeth Mr ap Iorwerth ymlaen i ddweud bod Plaid Cymru yn cynnig arweinyddiaeth newydd i Gymru sy'n canolbwyntio ar dosturi a hygrededd, sy'n deyrngar i bobl a chymunedau Cymru.

Yn siarad cyn etholiadau’r Senedd, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth:

“Mae gwasanaeth yn rhywbeth sydd wastad wedi cynnal Cymru, ac maen un o’r gwerthoedd hynny a ddysgodd fy rhieni i fi, y ddau yn athrawon, pan oni’n hogyn ifanc. Un o’r gwerthoedd dwi wedi trio i’w basio i fy mhlant - y weithred o roi yn ôl i’r bobl a’r llefydd hynny a roddodd gymaint i ni.

“Mae fory, yn gyfle i bobl Cymru i ddewis pwy fydd yn gwasanaethu ein cenedl dros y pedair blynedd nesaf. Pwyslais Plaid Cymru o wasanaethu Cymru – hefo sylw ar ein hanghenion a’n dyfodol yn unig – ddenodd fi at wleidyddiaeth yn y lle cyntaf.

“Rydym yn blaid heb feistr yn San Steffan, heb gyfarwyddiadau na gorchmynion eraill - pobl Cymru sy’n gosod y cyfeiriad. Ac fel Prif Weinidog, mi fyddai’r gwerthoedd hynny yn fy nhywys i bob dydd.

“Mae Plaid Cymru yn cynnig arweinyddiaeth newydd wedi ddiffinio nid gan sgriptiau a sloganau wedi eu ysgrifennu gan eraill, ond gan deyrngarwch i’r bobl a’r cymunedau hynny sydd wedi fy siapio i. Arweinyddiaeth newydd sy’n gosod caredigrwydd a hygrededd wrth galon popeth, ac yn cynnig uchelgais newydd a ffordd o wneud pethau yn lle’r hen drefn.

“Felly fory, gall Gymru gymryd y cyfle, gallwn bleidleisio dros blaid sy’n barod i’ch gwasanaethu chi, bobl Cymru, a dros Brif Weinidog fydd bob amser yn rhoi buddiannau ein cymunedau a’n cenedl yn gyntaf. Pleidleisiwch dros Blaid Cymru.”