Dylai ymchwiliad Cymreig dan arweiniad barnwr gynhyrchu adroddiad interim erbyn diwedd yr haf

Rhaid cychwyn yn syth ar ymchwiliad heb anwybyddu dim”  i’r ymateb i bandemig COVID-19 yng Nghymru, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price.

Byddai’r ymchwiliad barnwrol yn rhedeg ar y cyd ag ymchwiliad gan farnwr yn y DG, a byddai ei ganfyddiadau cyntaf yn barod erbyn diwedd yr haf.

Dywedodd Mr Price “mae dysgu gwersi i fod â gwybodaeth well er mwyn ymateb yn y dyfodol a gwneud penderfyniadau gwell yn bwysicach na dweud pwy sydd ar fai.”

Ychwanegodd y dylai themâu canolog yr ymchwiliad gynnwys y canlynol:

  • Pa mor barod oeddem ni, a sut gallwn ni wneud yn well?
  • A gollwyd amser gwerthfawr o fis Ionawr ymlaen, e.e., wrth gynllunio ar gyfer CGP/profi?
  • A ddylid bod wedi rhoi mesurau cloi i lawr ar waith yn gynt?
  • Beth sy’n esbonio’r gyfradd uwch o farwolaethau o gymharu â gwledydd eraill?
  • A oedd cyfiawnhad dros roi’r gorau i brofi ac olrhain yng nghanol Mawrth? 

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price;

“Fe all COVID-19 fod gyda ni am beth amser – felly gall aros nes bydd yr argyfwng ar ben nes i ni ddysgu gwersi wthio’r adroddiad terfynol ymlaen lawer blwyddyn i’r dyfodol. 

“Mae’r perygl o ail don yn bosib iawn, a heb frechlyn, fe allwn wynebu gaeaf anodd iawn.

“Mae angen i ni ddysgu gwersi nawr. Byddai sefydlu ymchwiliad yn syth bin i’r modd yr ymatebodd Llywodraeth Cymru yn golygu y gellid dechrau gweithio’n syth tra bod y cof yn dal yn fyw, a gallai’r canfyddiadau cyntaf fod yn barod erbyn diwedd yr haf.

“Gallai ymchwiliad yn y DG ar yr un pryd hefyd edrych i mewn i gwestiynau sy’n ymwneud â meysydd a gadwyd yn ôl megis rheoli ffiniau, pwerau’r heddlu, a’r ymateb economaidd. Ond gallai Cymru osod yr agenda trwy gyhoeddi ei hymchwiliad ymlaen llaw, gan roi esiampl i Lywodraeth y DG y byddai’n rhaid iddynt hwy ei ddilyn.

“Mae dysgu gwersi i fod â gwybodaeth well er mwyn ymateb yn y dyfodol a gwneud penderfyniadau gwell yn bwysicach na dweud pwy sydd ar fai.”

“Dylai ymchwiliad o’r fath fod yn un nad yw’n anwybyddu dim o ran ateb cwestiynau anodd yn llawn ac yn onest. Fydd pobl Cymru – yn enwedig y rhai yr effeithiodd canlyniadau trychinebus y pandemig arnynt yn uniongyrchol – yn disgwyl dim llai.”