6 mis i fynd: Cymru gyda chyfle i 'newid yn ein hymdeimlad o hunan-hyder' - Plaid Cymru
Mae etholiadau’r Senedd yn 2026 yn cynnig cyfle i bobl Cymru 'newid yn ein hymdeimlad o hunanhyder fel cenedl', yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Wrth siarad union chwe mis cyn etholiad Mai 7fed, mae Rhun ap Iorwerth wedi galw ar bobl i ddod gyda Plaid Cymru, ac i droi 'rhwystredigaeth yn weithredu' drwy ddewis Llywodraeth Plaid Cymru yn 2026.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth:
"Chwe mis i heddiw, bydd gan Gymru’r cyfle i bleidleisio dros newid - newid llywodraeth, newid arweinyddiaeth, a newid yn ein hymdeimlad o hunan-hyder fel cenedl.
“Wedi chwe mlynedd ar hugain o Lafur, mae Cymru’n wynebu rhestrau aros hirfaith yr NHS, gwasanaethau cyhoeddus sy’n gwegian, a llywodraeth sydd wedi colli’r ymdeimlad o bwrpas. Mae ymdeimlad cynyddol y gall, ac y dylai Cymru fod yn gwneud cymaint yn well.
“Mae Llafur wedi hen roi’r gorau ar Gymru. Yn y cyfamser, nid yw Reform UK, wedi’u cefnogi gan y biliwnyddion, yn poeni dim am Gymru - gan ein gweld fel dim ond carreg gamu i Downing Street.
“Mae Plaid Cymru yn cynnig y newid cadarnhaol y mae pobl Cymru yn awchu amdano.
“Mae hynny’n golygu llywodraeth ar eu hochr nhw. Un a fydd yn cymryd camau go iawn i daclo’r argyfwng costau byw, yn cefnogi busnesau Cymru, yn gwella ein NHS, ac yn cefnogi teuluoedd. Un sy’n gwasanaethu pobl Cymru - nid buddiannau pleidiau San Steffan.
“Gyda chwe mis i fynd, rwy’n gofyn i bobl ddod gyda ni, i ddod gyda Phlaid Cymru, i droi eu rhwystredigaeth yn weithredu, a dewis llywodraeth sy’n credu yng Nghymru, llywodraeth fydd yn sefyll i fyny dros ein cenedl.
“Dros y chwe mis nesaf, rwy’n edrych ymlaen at fynd â’r neges honno i bob cwr o’n gwlad, gan adeiladu’r momentwm ar gyfer y newid cadarnhaol y mae Cymru’n ei haeddu.”