Bydd y pleidiau yn cydweithio i sicrhau bod lleisiau’r cenhedloedd yn cael eu clywed

Mae Prif Weinidog yr Alban John Swinney AS ac Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS wedi addo cydweithio i gynnig dewis arall cadarnhaol i ras San Steffan i'r dde, ac i sicrhau bod lleisiau Cymru a'r Alban yn cael eu clywed.

Cyn cyfarfod yng Nghaeredin heddiw (dydd Iau) mae'r ddau arweinydd wedi tynnu sylw at y potensial ar gyfer cynghrair flaengar rhwng yr Alban a Chymru i ddangos gweledigaeth o obaith am ddyfodol gwell mewn cyferbyniad â dirywiad San Steffan - ac i sicrhau bod Llywodraeth Lafur y DU yn parchu dymuniadau'r ddwy genedl.

Disgwylir y bydd y cyfarfod hefyd yn trafod camau gweithredu Llywodraeth yr SNP i fynd i'r afael â thlodi plant gan gynnwys y Taliad Plant Albanaidd trawsnewidiol, y byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn ei dreialu yng Nghymru.

Cyn y cyfarfod, dywedodd John Swinney:

“Nid yw’r status quo yn San Steffan yn gweithio – mae biliau’n codi, mae pobl yn ei chael hi’n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd, ac ateb Llywodraeth Lafur y DU yw rhuthro ymhellach ac ymhellach i’r dde i gadw i fyny â Nigel Farage.

“Nid yw hwn yn status quo rwy’n fodlon ei dderbyn – a byddaf wrth fy modd yn gweithio gyda fy ffrindiau ym Mhlaid Cymru i ddangos i bobl yr Alban a Chymru fod dewis arall cadarnhaol i anobaith a dirywiad San Steffan.

“Ein gweledigaeth yw cymdeithas lle rydym yn cefnogi pobl gyda chostau byw yn hytrach na’u gadael i ddihoeni tra bod y cyfoethog yn mynd yn gyfoethocach. A lle rydym yn codi plant allan o dlodi, yn hytrach na’u gwthio i dlodi gyda pholisïau fel y Cap Dau Blentyn.

Gallwn ddangos bod dyfodol gwell yn bosibl – a daw hynny gyda dechrau newydd annibyniaeth.”

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS:

“Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod â Phrif Weinidog yr Alban John Swinney i drafod ein gweledigaeth gyffredin ar gyfer dyfodol ein cenhedloedd.

“Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn awyddus i fabwysiadu arferion gorau o bob cwr o’r byd o ran mabwysiadu polisïau i wella bywydau beunyddiol pobl a ble gwell i ddechrau nag gydag un o’n cynghreiriaid agosaf yn yr Alban.

“Mae Taliad Plant yr Alban yn bolisi radical a chyffrous yr ydym wedi ymrwymo i’w gyflwyno fel cynllun peilot Cymreig pe bai Plaid Cymru yn ffurfio’r llywodraeth nesaf ym mis Mai. Diolch i fesurau fel hyn, yr Alban yw’r unig ran o’r DU lle mae cyfraddau tlodi plant i fod i ostwng yn y blynyddoedd i ddod. Rwyf am i hynny fod yn wir yng Nghymru hefyd.

“Mae gennym gyfle gwirioneddol i ddangos grym gwleidyddiaeth flaengar trwy gydweithrediad agos a pharhaus rhwng yr Alban a Chymru.

“Gyda Llywodraeth SNP yn yr Alban a Llywodraeth Plaid Cymru yng Nghymru fis Mai nesaf, bydd gan ein cenhedloedd y lleisiau cryfaf posibl na all San Steffan eu hanwybyddu mwyach.”