Cwestiynau Prif Weinidog: ‘Starmer yn ofni wynebu atebion Brexit’ – Liz Saville Roberts AS
Rhaid i’r Prif Weinidog dderbyn mai ailymuno â’r farchnad sengl a’r undeb tollau yw’r ateb ar ôl ‘degawd o ffantasïau Brexit’
Mae Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, wedi cyhuddo’r Prif Weinidog o fod yn “rhy ofnus” i ddweud y gwir ambrexit ar ôl iddo wrthod cytuno mai ailymuno â’r farchnad sengl a’r undeb tollau yw’r ateb i broblemau economaidd y DU.
Heriodd Ms Saville Roberts y Prif Weinidog gyda thystiolaeth newydd yn dangos bod Cymru wedi cael ei tharo galetaf gan Brexit, gydag allforion i’r UE yn gostwng 31% ers i’r DU adael y bloc – dirywiad llawer dyfnach na chyfartaledd y DU.
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, pwysodd ar y Prif Weinidog:
“Dywedodd y Prif Weinidog ei fod eisiau perthynas agosach ag Ewrop ond yna cyfeiriodd at faniffesto’r Blaid Lafur.
“Dywedodd y Prif Weinidog ei fod eisiau perthynas agosach ag Ewrop ond yna cyfeiriodd at faniffesto’r Blaid Lafur.
“Mae Cymru wedi cael ei tharo galetaf gan Brexit – mae allforion i’r UE wedi gostwng o draean.
“Pryd fydd e’n cyfaddef mai’r unig ateb i’r anhrefn a orfodwyd gan Brexit yw ailymuno â’r undeb tollau a’r farchnad sengl, neu a yw e’n rhy ofnus o’r hyn y gallai ei blaid ei ddweud?”
Ymatebodd y Prif Weinidog drwy gyfeirio at y cytundebau masnach a gytunwyd gyda’r UDA, a chytundeb a wnaed ar fferyllol, gan ychwanegu y byddai undeb tollau yn “datod” y cytundebau hynny.
Wrth siarad ar ôl y sesiwn, ychwanegodd Liz Saville Roberts AS:
“Wrth i ni agosáu at ddiwedd 2025, byddwn wedi dioddef degawd o ffantasïau Brexit yn fuan. Mae’n bryd bod yn onest ynglŷn â’r atebion i’n problemau economaidd.
“Mae busnesau ledled Cymru yn gweiddi am weithredu. Maent yn wynebu mwy o waith papur, costau uwch a marchnadoedd sy’n crebachu - a hynny i gyd oherwydd bod Llywodraeth Lafur y DU yn gwrthod wynebu realiti.
“Drwy ddiystyru aelodaeth o’r farchnad sengl ac undeb tollau, mae’r Prif Weinidog yn dewis gofal gwleidyddol dros adferiad economaidd.
“Mae Plaid Cymru yn glir: ailymuno â’r farchnad sengl a’r undeb tollau yw’r ffordd gyflymaf a mwyaf ymarferol o ddechrau atgyweirio’r niwed economaidd a wnaed gan Brexit.”