Yn ei neges i bobl Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi, mae Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru wedi amlinellu cynlluniau ei blaid i "symud y tu hwnt i'r pethau bychain" a "chyflawni newid mawr i Gymru" wrth i ni nesáu at etholiad Senedd 2026.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth:

"Ar Ddydd Gŵyl Dewi dani’n dod at ein gilydd fel cenedl i ddathlu ein nawddsant. Heddiw, cofiwn beth ddywedodd Dewi – ‘gwnewch y pethau bychain’ - ac er mor bwysig ydy’r neges hynny, gadewch i ni gyflawni newid mawr i Gymru. Gadewch i ni anelu yn uwch a bod yn fwy uchelgeisiol am ein dyfodol.

“Mae Plaid Cymru yn barod i weithio efo chi a’ch cymuned i gynnig dechrau newydd i Gymru. Byddwn wastad yn mynnu chwarae teg i chi, wrth osod llawer mwy o uchelgais am beth allwn ni ei gyflawni, ac ar gyfer y Cymru rydym eisiau weld.

“Hefo dim ond blwyddyn i fynd nes etholiad nesaf y Senedd, fe fydd Plaid Cymru yn gwneud y pethau bychain er mwyn cyflawni newid mawr. O ein cynlluniau i dorri rhestrau aros yr NHS, i gynnig ffordd ymlaen ar gyfer creu gwell swyddi a datblygu economi fwy llewyrchus wrth i ni dyfu’n fwy hyderus fel gwlad. Mae neges Plaid Cymru yn glir: dewch hefo ni ar y siwrne.

“Dydd Gŵyl Dewi Hapus i chi gyd.”