Swydd wag: Swyddog Cefnogi Ymgyrchoedd a Data
Teitl: Swyddog Cefnogi Ymgyrchoedd a Data
Lleoliad: Pencadlys Plaid Cymru - Tŷ Gwynfor, Caerdydd
Mae staff Plaid Cymru yn gweithredu patrwm hybrid o weithio o bell a gweithio yn y swyddfa.Math o gytundeb: Parhaol, Llawn amser
Cyflog: Band 3 (£26,345 - £33,873)
Hyblyg - Mae Plaid Cymru yn hapus i drafod mathau eraill o weithio hyblyg gydag unrhyw ymgeisydd sy’n dymuno ymgymryd â’r rôl hon yn rhan amser neu’n rhannu swyd
Penodir fel arfer ar ben isaf y raddfa.Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos, gyda’r angen i weithio gyda’r nos ac ar benwythnosau o bryd i’w gilydd.
Mae Plaid Cymru yn cynnig system o weithio oriau hyblyg. Mae’r swydd yn cynnig 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn, gyda dyddiau braint ychwanegol.
Pwrpas y Rôl
Mae Uned Ymgyrchu Cenedlaethol Plaid Cymru yn chwilio am unigolyn ymroddedig a dawnus i ymuno a’u tîm llwyddiannus, i gefnogi etholiadau ac ymgyrchoedd y blaid wrth iddi edrych ymlaen at yr etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2027 a thu hwnt.
Bydd gan ddeiliad y swydd ddiddordeb mewn ymgyrchu gwleidyddol a gwybodaeth o sut i ddefnyddio rhaglenni data fel Excel, a bod yn barod i ddysgu am systemau cefnogi ymgyrchoedd y blaid, a’u datblygu. Bydd yn cynorthwyo i gyflwyno hyfforddiant a chefnogaeth i wirfoddolwyr mewn defnyddio meddalwedd etholiad y blaid, ac yn cefnogi etholaethau ac ymgeiswyr i gyflwyno ymgyrchoedd effeithiol.
Prif Gyfrifoldebau
- Cynnal, datblygu a hyrwyddo cronfa ddata genedlaethol y blaid o etholwyr
- Cefnogi defnyddwyr lleol y gronfa ddata genedlaethol, gan sicrhau eu bod yn cadw at bolisïau diogelu data
- Paratoi a chyflwyno cynllun hyfforddi i sicrhau datblygu sgiliau aelodau’r blaid wrth ddefnyddio e-ganfasiwr
- Helpu i holi’r data sydd ar gael yn y system i’w ddefnyddio ar draws y blaid; o ran ymgyrchoedd, aelodaeth a dibenion eraill.
- Cymryd rhan yn rhaglen waith ehangach yr Uned Ymgyrchoedd Genedlaethol, i gefnogi cyflwyno ymgyrchoedd etholiad effeithiol gan y blaid yn gyfan
- Paratoi allbynnau o’r gronfa ddata o etholwyr i’w defnyddio mewn ymgyrchu ac etholiadau
- Paratoi adroddiadau gan ddefnyddio meddalwedd y gronfa ddata o etholwyr
Sgiliau a Phrofiad Allweddol
Hanfodol
- Ymrwymiad i werthoedd Plaid Cymru
- Gwybodaeth waith gadarn o systemau cronfeydd data ac Excel, a gallu i ddysgu ac ymaddasu i systemau newydd
- Dealltwriaeth o etholiadau ac ymgyrchu
- Gallu i gyfathrebu a chefnogi pobl i ddefnyddio meddalwedd
- Ymwybyddiaeth o reoli data yn briodol ac yn gyfrinachol
- Y gallu i weithio i derfynu amser, bod yn drefnus a rheoli amser ac adnoddau yn effeithiol
- Y gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm, a datblygu perthynas waith dda ar draws meysydd cyfrifoldeb
Dymunol
-
Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg
-
Profiad o weithio gyda gwirfoddolwyr
-
Profiad o weithio mewn sefydliadau gwleidyddol a/neu rai a arweinir gan yr aelodau
Dyddiad Cau
10am, dydd Gwener, 2 Hydref 2026
Ceisiadau
Anfonwch ffurflen gais wedi ei llenwi at [email protected]
Lawrlwytho