Llywodraeth Lafur Cymru ddim ar y trywydd iawn i gyrraedd targed 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu diffyg uchelgais a diffyg gwaith paratoi Llywodraeth Lafur Cymru tuag at gyrraedd y targed o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Cyfeiriodd y blaid at gwymp yn nifer y plant sy'n derbyn addysg Gymraeg dros y dair blynedd ddiwethaf a'r ffaith mai dim ond dwy ysgol cyfrwng Cymraeg newydd sydd wedi agor dros yr un cyfnod. Dywedodd Cefin Campbell, llefarydd y blaid ar Addysg fod hon yn sefyllfa hynod bryderus.
Dywedodd y blaid hefyd bod y cwymp yn nifer yr athrawon yn gyffredinol yng Nghymru o bron i 600 yn hynod bryderus, gan y byddai llawer o’r rhain wedi chwarae rhan hanfodol wrth dyfu'r Gymraeg.
Dywedodd Cefin Campbell, llefarydd Plaid Cymru dros Addysg:
“Mae'n hynod bryderus ac yn fater o siom gweld diffyg uchelgais a gwaith cynllunio Llywodraeth Lafur Cymru tuag at y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae'n deg dod i’r casgliad nad oes gobaith cyrraedd y targed hwn gydag agwedd mor ddi-hid gan Lywodraeth bresennol Cymru.
“Mae cwymp wedi bod yn nifer y plant sy'n derbyn addysg Gymraeg, ac mae'r ffaith mai dim ond dwy ysgol Gymraeg newydd sydd wedi cael eu hagor yng Nghymru dros y dair blynedd ddiwethaf yn adlewyrchiad damniol o ddiffyg blaenoriaeth gan y llywodraeth Lafur.
“Mae Plaid Cymru wedi galw'n gyson am fwy o fuddsoddiad mewn athrawon ac am agor mwy o ysgolion Cymraeg. Rwy'n siŵr y gwelwn Weinidogion Llafur yr wythnos hon yn yr Eisteddfod yn honni eu bod yn parhau yn ymrwymedig i'r targed o 1 miliwn, ond yn anffodus does dim tystiolaeth i gefnogi’r uchelgais hwn. Yn hytrach na symud ymlaen ar fyrder rydym yn cymryd cam yn ôl!
“Mae'n amlwg i bawb felly nad yw'r sylfeini cryf sydd eu hangen wedi eu gosod mewn lle er mwyn ein symud yn nes at y targed hwnnw. Does dim cynnydd sylweddol wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf yn nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu drwy'r Gymraeg ac mae gwahaniaeth daearyddol enfawr o fewn Cymru o ran argaeledd athrawon a chyfleoedd i ddysgu drwy’r Gymraeg yn lleol. Mae yna hefyd nifer sylweddol o athrawon sy'n gallu dysgu drwy'r Gymraeg ond sydd ddim yn cael gwneud hynny ar hyn o bryd achos diffyg swyddi. Mae'r cwymp yn nifer yr athrawon yn dangos nad yw'r llywodraeth Lafur hon ychwaith wedi mynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio a chadw athrawon yr ydym yn ei wynebu.
“Rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn manteisio ar y cyfle drwy gael Prif Weinidog newydd i ail-edrych ar ei hymrwymiad tuag at yr iaith, a sicrhau bod Bil y Gymraeg ac Addysg cadarn yn mynd i arwain at dwf sylweddol yn siaradwyr yr iaith. Mae angen uchelgais, ond mae angen gweithredu cadarnhaol arnom hefyd.”