Mae AS y Blaid Jonathan Edwards wedi ysgrifennu at y Canghellor yn galw ar i Lywodraeth y DG beidio â rhoi cefnogaeth ariannol i gwmnïau sy’n osgoi treth.

Cyhoeddwyd amrywiol gynlluniau a grantiau i gefnogi busnesau trwy argyfwng Coronafeirws. Fodd bynnag, oherwydd bod cymaint wedi ymgeisio, mae pryderon y gallai busnesau llai fod ar eu colled

Mae AS Plaid Cymru yn amlinellu yn y llythyr ei alwadau ar i Lywodraeth y DG ddilyn esiampl Denmarc, Gwlad Pwyl a Ffrainc trwy eithrio corfforaethau a gofrestrwyd mewn llochesi treth tramor o gefnogaeth ariannol Llywodraeth y DG.

Dywed Mr Edwards yn y llythyr fod cwmnïau sy’n osgoi treth wedi “dwyn o bocedi ein gwasanaethau cyhoeddus” sydd ar reng flaen argyfwng Covid ac na ddylent yn awr gael cildwrn gan y trethdalwr.

Seilir y llythyr ar gynnig a gyflwynwyd gan AS y Blaid ar ddiwrnod cyntaf Tŷ’r Cyffredin ar ei ffurf led-ddigidol. Llofnodwyd y cynnig cynnar yn y dydd gan aelodau o’r SNP, y Blaid Lafur a’r DUP fel ar ddydd Mercher (y diwrnod diwethaf yr eisteddodd y Senedd).

Mae Mr Edwards hefyd wedi ail-adrodd galwadau Plaid Cymru am Incwm Sylfaenol Cyffredinol Brys i gefnogi pob gweithiwr yn ystod yr argyfwng Coronafeirws, waeth pwy yw eu cyflogwyr.

Meddai Jonathan Edwards AS:

“Fel y gwyddoch, mae’n siŵr, ymunodd Ffrainc ddoe [Iau 23 Ebrill] â Denmarc a Gwlad Pwyl i eithrio cwmnïau a gofrestrwyd mewn llochesi treth tramor o’u pecynnau cefnogi gan y Llywodraeth adeg y Coronafeirws.

“Er fy mod yn cydnabod fod y Trysorlys wedi ymyrryd mewn ffyrdd na wnaeth o’r blaen, rydym mewn cyfnod na welwyd mo’i fath, ac y mae’n amlwg na wnaed digon i gadw llawer busnes i fynd. Yn benodol, oherwydd bod cymaint wedi manteisio ar y cynlluniau cefnogi hyn, mae pryderon cynyddol y gallai busnesau llai fod ar eu colled os bydd cwmniau mawr sy’n gwneud llawer o elw yn derbyn grantiau a benthyciadau a ddaw o bwrs y wlad.

“Yn yr un modd, mae’r argyfwng hwn wedi dangos eto mor bwysig yw ein gwasanaethau cyhoeddus i gymdeithas a’r economi. Mae ein gweithwyr rheng-flaen yn y GIG yn brwydro’n arwrol yn erbyn y feirws erchyll hwn ddydd ar ôl dydd. Yr unig reswm y gallant wneud hynny yw oherwydd ein gwasanaeth iechyd gwladol y telir amdano gan y cyhoedd ac sydd ar gael am ddim pan fydd ei angen.

“Gan gadw hyn mewn cof, rwy’n siŵr y buasech yn cytuno â mi y byddai’n chwerthinllyd i arian y trethdalwyr, wedi ei sianelu trwy’r cynlluniau cymorth hyn, fynd i gwmnïau sydd yn fwriadol wedi ceisio osgoi talu eu cyfran deg o dreth. Wedi gwneud yr hyn sydd mewn gwirionedd yn ddwyn arian o bocedi ein gwasanaethau cyhoeddus, allwn ni ddim caniatáu i’r cwmniau hyn gael cildwrn gan y trethdalwyr.

“Rwy’n eich annog felly i eithrio yn llwyr bob cwmni a gofrestrwyd mewn unrhyw loches treth o raglenni cymorth Llywodraeth y DG ac i enwi yn gyhoeddus y cwmniau hynny a eithriwyd.”