Bargen Newydd i Gymru
Mae'r rhan fwyaf o bobl Cymru yn credu bod ein gwlad yn cael cam. Yn rhy aml, mae Cymru yn colli allan ar y pwerau, y buddsoddiad a'r adnoddau sydd eu hangen arni i ddarparu ar gyfer ei chymunedau.
Rydym yn galw am Gytundeb Newydd i Gymru, sy'n cynnig yr un cyfleoedd â'r Alban i lunio ein dyfodol ein hunain a gwneud penderfyniadau yn nes at adref.
Ychwanega dy enw at y ddeiseb heddiw a helpa i sicrhau dyfodol mwy teg i Gymru.
Galwn ar lywodraeth y DU i sicrhau Bargen Newydd i Gymru, un sy’n trin Cymru yn deg ac yn rhoi’r un pwerau â’r Alban iddi gyflawni dros ei phobl:
- dylid datganoli plismona a cyfiawnder i Gymru
- dylem symud at fformiwla ariannu decach
- dylai’r wlad dderbyn ei chyfran deg o fuddsoddiad rheilffyrdd
- dylid cadw incwm Ystad y Goron yng Nghymru.
Mae 413 o bobl wedi llofnodi
Gadewch i ni gyrraedd 450