Mae Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth ASC wedi dweud y bydd cyflwyno rhaglen effeithiol a lleol o brofi ac olrhain yn “allweddol” i lacio’r cyfyngiadau cloi.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu cynllun i “brofi, canfod ac olrhain” heddiw (Mercher).

Gan ddweud ei bod yn “hen bryd” rhoi’r cynllun ar waith, dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth ASC y dylai yn awr gael ei “gyflwyno rhag blaen” – gan “ddyblu” y gallu i brofi yn y tymor byr gyda “chynlluniau clir ar gyfer profi ac olrhain yn sydyn”.

Dywedodd Mr ap Iorwerth y byddai cyflymder yn “hanfodol” o ran rheoli ac ynysu digwyddiadau o’r clefyd.

Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi methu â chwrdd â’u targed eu hunain ar gyfer profi, wedi iddynt addo ar y dechrau y cynhelid 9,000 o brofion erbyn canol Mai.

Ddoe, 1,193 yn unig o brofion a gynhaliwyd, lle’r oedd y gallu i gynnal 5,330 y dydd ar gael.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd cysgodol y dylai’r cynllun gael ei gyflwyno ar egwyddorion “ansawdd a maint fel ei gilydd” ac y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r dechnoleg sydd ar waith yn rhyngwladol er mwyn gofalu bod y system mor effeithiol ag y gall fod.

Fodd bynnag, dywedodd Mr ap Iorwerth y dylid “canoli mewn gwirionedd” ar beri bod y systemau ar gael ar lawr gwlad gan “weithio gydag awdurdodau lleol ac eraill i lunio systemau cadarn, gan ddefnyddio arbenigedd a gwybodaeth leol” – a rhoddodd yr un sy’n cael ei ddatblygu yng Ngheredigion fel enghraifft.

Dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth ASC,

“Mae’n hen bryd gwneud hyn, ac yr ydym yn edrych ymlaen at weld nid yn unig beth  yw cynlluniau Llywodraeth Cymru, ond sut y maent am eu rhoi ar waith yn sydyn. Mae Plaid Cymru wedi galw ers amser am roi blaenoriaeth i gynllun profi ac olrhain.

“Byddwn yn edrych i weld a oes nifer o elfennau – nid yn unig gynnydd mawr yn y gallu i brofi , dyblu o leiaf yn y tymor byr, ond hefyd gynlluniau clir am drosiant sydyn mewn profi ac olrhain. Bydd cyflymder yn hanfodol o ran ynysu achosion o’r clefyd.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd ddeall yn union sut i gymhwyso technoleg i’r broses olrhain - mae angen iddynt fod yn gyfarwydd â datblygiadau rhyngwladol allweddol megis y rhai a arweinir gan Google ac Apple, yn ogystal â gweld sut y gall yr ap a ddefnyddir ledled y DG fod yn fuddiol.

“Ond rhaid iddynt ganolbwyntio mewn gwirionedd ar roi systemau ar waith ar lawr daear yma yng Nghymru, gan weithio gydag awdurdodau lleol ac eraill i lunio systemau cadarn, gan ddefnyddio arbenigedd a gwybodaeth leol, fel yr un a ddatblygir yng Ngheredigion, er enghraifft.

“Ar ôl iddynt fethu â chyrraedd targedau profi, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi mwy fyth o bwysau arnynt eu hunain i gael hyn yn iawn. Allwn ni ddim hyd yn oed ddechrau llacio’r cyfyngiadau yn sylweddol yng Nghymru heb i gynlluniau profi, olrhain ac ynysu fod ar gael, a ninnau’n gallu ymddiried ynddynt.”