Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau fod 11 o weithwyr Byrddau Iechyd wedi marw o Covid-19 – ond ni ydynt yn sicr faint o weithwyr nyrsio a gweithwyr cartrefi preswyl sydd wedi marw o ganlyniad i Covid-19 yng Nghymru.

 

Mewn llythyr yn ateb cwestiwn gan Leanne Wood AS Plaid Cymru, cadarnhaodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, “nad oeddent yn gallu rhoi darlun llawn o’r sefyllfa i weithwyr nyrsio/cartrefi preswyl”.

Dywedodd Delyth Jewell AS, Gweinidog Cysgodol Trawsnewid Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Dyfodol, y dylai Llywodraeth Cymru "wybod" y ffigurau hyn a holodd sut y byddent yn gallu sicrhau y byddai cartrefi gofal yn cael eu diogelu rhag y firws heb wybod y darlun llawn nac effaith Covid-19.

Mae Ms Jewell wedi bod yn galw ers amser am brofion cyffredinol mewn cartrefi gofal, a phrofion i bobl sy'n gadael ysbytai i fynd i gartrefi gofal.

Meddai Delyth Jewell AS, Gweinidog Cysgodol Trawsnewid Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Dyfodol Plaid Cymru:

“Mae dysgu bod 11 o weithwyr Byrddau Iechyd wedi marw o Covid-19 yn drasig eithriadol. Byddai colli anwyliaid fel hyn wedi cael effaith ofnadwy ar deuluoedd a chymunedau.

"Y tu ôl i bob ystadegyn mae yna berson, ond yn achos gweithwyr cartrefi gofal, nid oes gennym hyd yn oed gofnod cywir o faint o staff asiantaeth, staff nyrsio a gweithwyr cartrefi gofal preswyl sydd wedi colli eu bywydau i'r firws marwol hwn.

"Dylai Llywodraeth Cymru wybod y ffigurau hyn. Dylent wybod bod llawer o staff cartrefi gofal wedi marw o ganlyniad i'r firws hwn. Dylent allu dweud wrthym beth yw gwir effaith Covid-19 ar ein cartrefi gofal. Ac os ydynt yn gwybod y ffigurau hyn, mae angen iddynt eu gwneud yn gyhoeddus.

"Mae cyfarpar diogelu annigonol a’r ffaith na fu profi mewn pob cartref gofal ar y dechrau wedi ei gofnodi yn helaeth yn y cyfryngau. Nid oedd staff a phreswylwyr mewn cartrefi gofal yn cael eu profi o gwbl yn y dechrau - hyd yn oed pan oeddent yn gleifion yn dychwelyd o'r ysbyty. Ers hynny, mae rheolwyr cartrefi gofal wedi codi pryderon gyda mi gan ddweud nad ydynt yn siŵr a wnaeth Covid-19 gael ei gofnodi ar dystysgrifau marwolaeth trigolion a fu farw o Covid-19 gan nad oeddent wedi cael eu profi.

"Heb wybod gwir effaith y mae’r firws wedi ei gael ar ein cartrefi gofal, a heb ddeall difrifoldeb y sefyllfa, sut mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl llunio strategaeth i amddiffyn ein cartrefi gofal rhag ail don?”