Byddai ail-ymuno â’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau o fudd economaidd i Gymru – Llinos Medi AS

Mae Llefarydd Busnes a Masnach Plaid Cymru, Llinos Medi AS wedi annog Llywodraeth y DU i “gymryd camau” go iawn i adfer perthynas y DU ag Ewrop.

 

Cyn uwchgynhadledd yr UE a’r DU yr wythnos nesaf, dywedodd AS Ynys Môn fod pobl Cymru wedi cael eu “siomi” gan y rhai a addawodd y byddai Brexit yn arwain at ddyfodol mwy llewyrchus, a bod Brexit mewn gwirionedd wedi achosi “difrod enfawr” i gymunedau ac economi Cymru.

 

Erbyn 2025, mae Brexit wedi costio hyd at £4 biliwn i economi Cymru ac wedi lleihau gwerth allforion Cymru hyd at £1.1 biliwn.

 

Mewn araith yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mawrth 13 Mai, galwodd Ms Medi ar Lywodraeth y DU i sefydlu Cynllun Symudedd Ieuenctid (Youth Mobility Scheme) ac i ymuno ag Erasmus+ i ganiatáu i bobl ifanc astudio a gweithio dramor.

 

Yn ogystal, dywedodd Llinos Medi AS y dylai'r DU ymrwymo i'r nod hirdymor o ymuno â'r Farchnad Sengl a'r Undeb Tollau, gan ddweud y byddai'n helpu Llywodraeth y DU i gyflawni ei nod o dyfu'r economi.

 

 

Wrth siarad yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd Llinos Medi AS:

“Mae'r Brexit caled a weithredwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU wedi costio hyd at £4 biliwn i economi Cymru; mae wedi lleihau gwerth allforion Cymru hyd at £1.1 biliwn, ac mae cytundebau masnach ar ôl Brexit gyda gwledydd fel Seland Newydd ac Awstralia wedi bod yn anffafriol i amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu Cymru.

“Ers Brexit, mae Cymru wedi colli £1 biliwn mewn cyllid strwythurol a datblygu gwledig Ewropeaidd – arian a allai fod wedi cael ei ddefnyddio i gefnogi ein cymunedau difreintiedig.

“Roedd hyn er gwaethaf yr addewid a wnaed gan Lywodraeth Geidwadol y DU ar y pryd yn 2019 y byddai Cymru a gwledydd eraill y DU yn derbyn “o leiaf y swm cyfatebol” i’r cyllid byddent wedi’i dderbyn gan yr UE cyn Brexit.”

 

 

Parhaodd Llinos Medi AS:

“Dylai’r Llywodraeth greu Cynllun Symudedd Ieuenctid ac ymuno ag Erasmus+ fel y gall ein pobl ifanc astudio a gweithio dramor, gan greu sgiliau a chyfleoedd newydd i’r genhedlaeth nesaf. Mae angen inni hefyd weld cydweithrediad ar yr amgylchedd, y celfyddydau ac ar amddiffyn.

“Rwy’n gobeithio y bydd yr uwchgynhadledd yr wythnos nesaf yn ddechrau, ac nid yn ddiwedd ar gryfhau ein cysylltiadau ag Ewrop. Mae angen nodau a thargedau clir ar unrhyw gynllun – mae Plaid Cymru yn credu mai’r nod ddylai fod i ymuno â’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau yn y pen draw.

“Mae’r Llywodraeth hon wedi dweud mai ei phrif nod yw tyfu’r economi. Ni allaf weld cyfle gwell i sicrhau twf na thrwy ymrwymo’r DU a Chymru i’r nod hirdymor o ymuno â’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau.

“Mae Cymru wedi dioddef yn wael gan y rhai a hyrwyddodd addewidion ffug Brexit ac mae’n rhaid i’r Llywodraeth hon nawr gymryd camau i drwsio ein perthynas ag Ewrop i amddiffyn economi Cymru.”