Helen Mary Jones AS, yn galw am i Lywodraeth Cymru gymryd argyfwng y prifysgolion o ddifrif

Ni ellir anwybyddu’r argyfwng mae prifysgolion Cymru yn wynebu bellach, dywedodd Helen Mary Jones AS, gweinidog cysgodol  Plaid Cymru dros yr economi.

Mae prifysgolion Cymru yn darparu 17,300 o swyddi llawn-amser, mae 50,000 o swyddi eraill yn dibynnu arnynt ac y maent yn darparu bron i 5% o GVA Cymru a thraean o’n gwariant ar ymchwil a datblygu.

Fodd bynnag, dangosodd adroddiad diweddar gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru fod prifysgolion Cymru yn wynebu colli rhwng £84 – 140 miliwn yn y flwyddyn academaidd i ddod mewn ffioedd yn unig – heb gyfrif colledion eraill y gellir eu disgwyl oherwydd cwymp tebygol yn niferoedd myfyrwyr.

Ail-adroddodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Helen Mary Jones AS alwad y blaid ar i Lywodraeth Cymru roi arweiniad hanfodol - cyn dechrau’r flwyddyn academaidd nesaf - fel y gall y sector AU fod yn hyderus fod cynlluniau wrth gefn i atal unrhyw heriau ymarferol neu ariannol yn y sector yn y flwyddyn i ddod.

Dywedodd Ms Jones fod prifysgolion Cymru yn un o bileri "strwythur economaidd" Cymru ac y byddai "diffyg gweithredu sydyn" gan Lywodraeth Cymru yn golygu y byddai’r piler mewn perygl o chwalu.

Galwodd AS Plaid Cymru am ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams y bydd "angen i’r prifysgolion fod yno i’n helpu i ddringo allan o’r argyfwng economaidd hwn."

Dywedodd Helen Mary Jones,gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi:

"Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio ers amser fod sefyllfa economaidd addysg uwch yng Nghymru yn fregus. Rydym yn cytuno gyda Llywodraeth Cymru fod yr argyfwng hwn yn un economaidd yn ogystal ag un iechyd cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru eu hunain wedi cyfaddef na fydd y mesurau presennol a amlinellwyd ganddynt yn ddigon i ddiogelu ein sector AU. Ni fydd ail-broffilio benthyciadau myfyrwyr, er enghraifft, o raid yn help wedi misoedd cyntaf y flwyddyn academaidd nesaf, oherwydd bod prifysgolion yn dibynnu ar ffioedd rheolaidd trwy gydol y flwyddyn.

"Ein prifysgolion yng Nghymru yw un o bileri ein strwythur economaidd, a bydd diffyg gweithredu sydyn gan Lywodraeth Cymru yn golygu fod y piler mewn perygl o chwalu. Rwyf wedi dweud o’r blaen mai dyma un o’r bygythiadau mwyaf, ac yr ydym felly’n credu, os na fydd Llywodraeth y DG yn cymryd camau, yna y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud hynny."