Bydd yr etholiad cyffredinol nesaf yn un pwysig. Felly pam pleidleisio Plaid Cymru yn yr etholiad cyffredinol nesaf?

Mae ein cymunedau wedi dioddef bron i bymtheng mlynedd o doriadau ac anhrefn dan law y Torïaid. Ni allwn gymryd mwy. Ond nid yw Llafur yn cynrychioli newid go iawn chwaith.

Does dim rhaid i'r etholiad cyffredinol nesaf fod yn ddewis rhwng coch neu las.

Yng Nghymru, gallwch bleidleisio dros rywbeth gwahanol a phlaid wleidyddol sy’n cynrychioli newid go iawn, a gobaith a llais i Gymru yn San Steffan.

Dyma bum rheswm pam y dylech chi bleidleisio dros Blaid Cymru.


1. Ni yw'r unig Blaid sy'n rhoi lles Cymru'n gyntaf

Could Plaid Cymru turn the Welsh Tories' scandal to their advantage?

Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n brwydro dros degwch i Gymru.

Ni yw’r unig blaid sy’n mynnu bargen ariannu decach i Gymru fel y gallwn fuddsoddi yn ein heconomi, y GIG ac ysgolion.

Ni yw’r unig blaid sy’n mynnu’r biliynau sy’n ddyledus i ni mewn cronfeydd rheilffyrdd o brosiect HS2 fel y gallwn gysylltu ein cymunedau, o’r gogledd i’r de.

A ni yw’r unig blaid sy’n mynnu mwy o bwerau dros ein hadnoddau naturiol a’n heconomi fel y gallwn adeiladu economi sy’n addas ar gyfer y dyfodol drwy greu swyddi gwyrdd sy’n talu’n dda.

Gallwch chi bob amser ddibynnu arnom ni i roi buddiannau gorau Cymru yn gyntaf yn San Steffan.

2. Ni yw llais Cymru yn San Steffan, nid llais San Steffan yng Nghymru 

Double opinion poll boost for Plaid Cymru

Ym Mhlaid Cymru, mae gennych ymgeiswyr sydd wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau. Pencampwyr lleol cryf a fydd yn llais i Gymru yn San Steffan – nid llais San Steffan yng Nghymru.

Mae gan ASau Plaid Cymru hanes anhygoel o sefyll dros y cymunedau y maent yn eu cynrychioli.

Oherwydd ein bod ni'n deall yr heriau rydych chi'n eu hwynebu a'r hyn sy'n bwysig i chi.

Bydd pleidlais i’ch ymgeisydd lleol Plaid Cymru yn golygu pleidlais i ethol AS a fydd yn gweithio o ddydd i ddydd i fynnu tegwch i Gymru a’r pwerau sydd eu hangen arnom i’n gwneud y genedl uchelgeisiol lwyddiannus y gwyddom oll y gall fod.

Ac, yn wahanol i bleidiau eraill, nid ydym yn ateb i unrhyw fosys yn Llundain.

3. Nid dyma yw'r cystal ag y gall pethau fod i Gymru

Two Welsh independence marches announced for 2022

O weithwyr iechyd sy'n gofalu am ein teuluoedd i fusnesau bach yn gwneud popeth o fewn eu gallu i geisio cael yr economi i symud.

O fanciau bwyd cymunedol yn estyn help llaw i'r rhai sy'n cynhyrchu'r bwyd ar ein byrddau.

Nid yw Cymru yn ddim byd heb ei phobl.

A dyna pwy mae Plaid Cymru yn falch o frwydro drosto.

Nid ymladd dros bobl Cymru heddiw yn unig ydyn ni – rydyn ni’n ymladd am ddyfodol gwell i genedlaethau’r dyfodol hefyd.

Mae gan Gymru orffennol diwydiannol hir a balch – ac er gwaethaf ymdrechion Llywodraeth y DU rydym am roi dyfodol iddi hefyd. Rydym yn mynnu trawsnewidiad cyfiawn i’r dyfodol gwyrddach y mae ein plant yn ei haeddu. Byddwn yn gwneud y mwyaf o’n hadnoddau naturiol, gan harneisio ein moroedd, arbed a chreu swyddi, trefol… a gwledig.

Bydd Plaid Cymru bob amser yn ei gwneud hi'n genhadaeth i frwydro dros swyddi a buddsoddiad, am gyfleoedd i'n pobl ifanc, ac am degwch fel y gallwn ddatgloi ein huchelgais.

4. Fe nawn ni helpu gael gwared a'r Ceidwadwyr

Tories remain restless for excitement as the nation loses trust in their  delivery

Mae'r Torïaid wedi chwalu'r economi ac wedi gadael pobl gyffredin i dalu'r pris.

Yn lle trwsio pethau, mae’r Torïaid bellach wedi troi at ymladd ymysg ei gilydd neu’n waeth – pigo ar y rhai mwy bregus yn ein cymdeithas, i geisio tynnu sylw oddi wrth yr anhrefn y maent wedi’i achosi.

Mae 14 mlynedd o galedi wedi gadael ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu torri i’r briw.

Allwn ni ddim cymryd rhagor a bydd pleidlais dros AS cryf Plaid Cymru a fydd yn ymladd dros Gymru yn San Steffan yn helpu i gael gwared ar y Torïaid.

Ac yng Nghymru, GALLWCH bleidleisio Plaid Cymru i atal y Torïaid.

5. Fe nawn ni stopio Llafur rhag cymryd Cymru'n ganiatol

Keir Starmer backs review after Gething campaign donations controversy -  BBC News

Mae’n ffaith drist, ond mae Llafur yn cymryd Cymru’n ganiataol.

Mae eu record wael mewn llywodraeth yng Nghymru, boed hynny ar y GIG, addysg neu’r economi, yn siarad cyfrolau. Maent yn osgoi craffu yn gyson. Ac mae gan eu harweinydd newydd gwestiynau difrifol i'w hateb eisoes am ei farn ynghylch rhoddion amheus.

Yn Llundain, rydym yn gweld tro pedol ar ôl y tro pedol, a dim addewid o hyd o gyllid tecach i Gymru.

Does dim ots gan Keir Starmer am Gymru. Mae'n cynnig mwy o'r un peth. Yr un polisïau economaidd sydd wedi gadael ein cymunedau mewn trafferthion a bancwyr yn gwneud mwy a mwy o elw. Yr un gwrthodiad i roi’r £4bn sy’n ddyledus i Gymru mewn arian parod HS2. Yr un edmygedd, hyd yn oed, i Margaret Thatcher!

Mae sefyll dros Gymru yn golygu mwy na dim ond cael gwared ar y Torïaid. Mae’n golygu sefyll i fyny at bwy bynnag sydd mewn grym yn San Steffan – coch neu las. Gyda thori’r Torïaid ar y cardiau, mae ar Gymru angen llais cryf yn San Steffan a fydd yn dal traed Keir Starmer i’r tân gan wneud yn glir i Lafur na allant byth gymryd Cymru’n ganiataol.


International Women's Day: women in politics in Gwynedd

Mae Plaid Cymru yn blaid wleidyddol Gymreig sy’n ymroddedig i greu Cymru decach a gwyrddach, lle mae pawb yn cael yr un cyfle i gyrraedd eu llawn botensial – yn annibynnol ar anhrefn San Steffan.

Rydym yn cynrychioli pawb sy’n galw Cymru yn gartref iddynt. Mae Plaid Cymru yn blaid i bawb yng Nghymru - pwy bynnag ydych chi. 

Ymunwch â ni heddiw: www.plaid.cymru/ymuno