Cwestiynau Cymru: Llywodraeth y DU yn gwrthod cadarnhau y bydd safleoedd dur Cymru yn derbyn cyfran deg o gyllid
Galwodd Liz Saville Roberts ar Lywodraeth y DU i sefyll dros ddur Cymru
Yn ystod Cwestiynau Cymru heddiw (dydd Mercher 17 Mehefin) anogodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, Swyddfa Cymru i “sefyll dros fuddiannau Cymru” a galwodd ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod “cyfran deg o’r Gronfa Ddur yn mynd i bob safle dur yng Nghymru”.
Gwrthododd Anna McMorrin, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, gadarnhau y byddai safleoedd dur Cymru yn derbyn eu cyfran deg o Gronfa Ddur £2.5 biliwn Llywodraeth y DU.
Esboniodd Ms Saville Roberts fod tân mawr a dorrodd allan yn ddiweddar yn y gweithfeydd dur ym Mhort Talbot wedi achosi difrod sylweddol ond honnodd nad oedd yr un ceiniog o Gronfa Ddur Llafur, sydd werth £2.5 biliwn ac sy'n ceisio cefnogi safleoedd dur i drawsnewid i gynhyrchu dur gwyrdd, wedi'i gwarantu ar gyfer Port Talbot nac unrhyw safle dur arall yng Nghymru.
Dywedodd arweinydd y blaid yn San Steffan hefyd, er bod miliynau'n cael eu gwario i gefnogi dur yn Scunthorpe, nad oedd Cymru wedi derbyn dim.
Yn 2024, ymrwymodd Llywodraeth Lafur y DU i fuddsoddi £500 miliwn ar gyfer y Ffwrnais Arc Trydan yng ngweifeydd Dur Port Talbot, ond mae hyn yn gwbl ar wahân i'r Gronfa Ddur, a does dim o hwnnw wedi’i ymrwymo i Gymru.
Cyhuddodd Ms Saville Roberts AS y Gweinidog o "beri dryswch" yn ei hateb.
Wrth siarad yn y siambr, dywedodd Liz Saville Roberts:
“Achosodd tân yng ngweithfeydd dur Port Talbot ddifrod enfawr ond nid oes yr un geiniog o Gronfa Ddur Llafur, sy’n werth £2.5 biliwn, wedi’i gwarantu ar gyfer dur yng Nghymru.
“Yn lle hynny, mae miliynau’n cael eu gwario o’r gronfa hon i gefnogi dur yn Scunthorpe, gan adael gweithwyr Cymru yn ofni eu bod yn cael eu gwthio o’r neilltu.
“Felly a fydd ei Llywodraeth yn sefyll dros fuddiannau Cymru ac yn gwarantu cyfran deg o’r Gronfa Ddur i bob safle dur yng Nghymru?”
Yn ei hymateb, dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Anna McMorrin:
“Bydd ein strategaeth ddur yn adfywio sector dur y DU, gan adfer cynhyrchiant domestig, a bydd 50% ohono’n dod o Gymru, gan sicrhau cyflenwad ar gyfer sectorau allweddol a seilwaith cenedlaethol ac rwy’n gobeithio’n fawr y bydd Llywodraeth leiafrifol Plaid Cymru yn cefnogi’r gwaith hwn i gefnogi ein gweithwyr dur yng Nghymru.”
Wrth ymateb i’r Gweinidog yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Ms Saville Roberts:
“Diddorol clywed ymateb y Gweinidog ond mae hi’n peri dryswch yma yma oherwydd nid yw hynny’n ymwneud â’r Gronfa Ddur. Yr hyn yr ydym yn siarad amdano yma yw’r Gronfa Ddur yn benodol a’r cyfraniad y bydd hynny’n ei wneud i Gymru, ac rydym yn gwybod bod yr arian hwnnw’n mynd tuag at Scunthorpe.”