"Dylai’r adroddiad yma ein stopio’n stond" - Delyth Jewell AS
Adroddiad yn canfod fod lefelau lles plant yng Nghymru yn un o’r isaf
Mewn adroddiad a ryddhawyd yn ddiweddar gan brosiect ‘Children's Worlds’, canfuwyd bod gan y plant yng Nghymru rai o'r lefelau lles isaf ar draws 35 o wledydd gwahanol.
Dywedodd Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros y Dyfodol, Delyth Jewell AS, “Ein plant yw ein dyfodol - dylai’r adroddiad yma ein stopio’n stond a gwneud i ni sylweddoli pa mor llwm yw'r rhagolygon ar gyfer dyfodol ein pobl ifanc.”
Galwodd y tîm y tu ôl i'r arolwg o blant Cymru, o Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), fod y canfyddiadau'n “arwyddocaol”. Dywedasant fod y lefelau isel o les seicolegol a geir ymhlith pobl ifanc 12 oed yng Nghymru yn “arbennig o drawiadol”. Rhoddodd plant Cymru'r marciau isaf i’r cwestiynau ynglŷn â bodlonrwydd, y gallu i reoli eu cyfrifoldebau, ac a oeddent yn teimlo'n gadarnhaol am y dyfodol.
Wrth alw'r ymchwil yn “rybudd amlwg” dywed Delyth Jewell AS fod angen i ni – fel cymdeithas – “gymryd sylw a gweithredu.” Mae Ms Jewell yn nodi bod yr arolwg wedi'i gynnal yn 2018 ac wedi mynegi pryderon y bydd effaith y pandemig “bron yn anochel wedi gwneud y darlun yn waeth,” gan alw ar Lywodraeth Cymru i roi sylw i'r rhybudd hwn, cymryd y canfyddiad o ddifrif, a gweithredu ar frys.
Mae Ms Jewell wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu mewn tair ffordd:
- Trafod a deall mwy gan bobl ifanc am yr hyn sydd angen ei newid;
- Diogelu yn well mentrau sy'n cefnogi pobl ifanc ym mhob agwedd o’u bywydau;
- Cryfhau rôl pobl ifanc wrth wneud penderfyniadau.
Dywedodd Delyth Jewell AS, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros y Dyfodol:
“Plant a phobl ifanc yw dyfodol ein cenedl, a nhw sydd hefyd fod i gynrychioli gobaith unrhyw genedl.
“Yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf, mae pobl ifanc wedi gorfodi gwleidyddion dros y byd i gymryd bygythiad newid hinsawdd o ddifrif, ac yn fwy diweddar yng Nghymru, gorfododd pobl ifanc Lywodraeth Cymru wneud tro pedol ar y ffiasgo canlyniadau Safon Uwch. Dylem fod yn dod o hyd i fwy o ffyrdd o rymuso ein pobl ifanc i amlygu eu llais. Ond mae angen i ni hefyd fynd at wraidd y broblem ddifrifol a bryderus hon.
“Mae angen i ni edrych o ddifrif ar y pwysau rydym ni fel cymdeithas yn eu rhoi ar bobl ifanc – o arholiadau, i ddelfrydau delwedd corff, i agweddau negyddol y cyfryngau cymdeithasol. Mae'r ffordd y mae pobl ifanc yn eu gweld eu hunain yn cael ei sianelu gan y ffordd y mae cymdeithas yn eu gweld – ac mae angen i ni gydnabod yr ymchwil yma fel rhybudd amlwg, rhaid i ni gymryd sylw a gweithredu.
“Yn syml, mae angen i ni siarad â phobl ifanc a chael gwybod ganddynt beth sydd angen ei newid. Rhaid i'w llais fod yn ganolog i fynd i'r afael â'r materion yma a sicrhau nad yw lles cenedlaethau’r dyfodol o bobl ifanc yn mynd drwy'r un beichiau gwanychol. Yn fwy cyffredinol hefyd, mae angen inni gryfhau rôl pobl ifanc yn y broses o wneud penderfyniadau.
“Dylai’r adroddiad yma ein stopio’n stond a gwneud i ni sylweddoli pa mor llwm yw’r rhagolygon ar gyfer dyfodol ein pobl ifanc. Yr hyn a ddylai ein poeni hyd yn oed yn fwy yw bod profiadau'r misoedd diwethaf bron yn anochel wedi gwneud y darlun yn waeth – o unigrwydd ac unigedd oddi wrth ffrindiau, i gael eu hamddifadu o brofi digwyddiadau bywyd allweddol. Mae hyn yn gwneud yr angen i gymryd y canfyddiadau hyn o ddifrif yn fwy dybryd.”