Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar fyrder i achub sector celfyddydau Cymru

Mae AS Plaid Cymru Siân Gwenllian wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ailasesu'r gefnogaeth y gall ei gynnig i sector y celfyddydau yng Nghymru, yn absenoldeb y cyhoeddiad hir-ddisgwyliedig am gymorth ariannol gan Lywodraeth San Steffan.

Mae cyfarwyddwr artistig adnabyddus un o brif gwmnïau theatr Cymru wedi dweud bydd dyfodol y theatr Gymraeg yn “llwm iawn” heb weithredu brys gan Lywodraeth Cymru.

Mae Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Arad Goch, wedi dweud mai arian ychwanegol yw'r "unig ffordd" fydd theatr yn goroesi ac yn parhau i fod yn rhan fyw o’r byd diwylliannol yng Nghymru ar ôl y Coronafeirws.

Mae Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg, Y Gymraeg a Diwylliant wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gamu i’r adwy a chefnogi'r sector drwy ddefnyddio'r adnoddau sydd ganddynt wrth law, gan gofio diffygion “siomedig” San Steffan i weithredu.

Dywedodd Mr Turner fod angen "buddsoddiad uniongyrchol a strategol" gan Lywodraethau Cymru a San Steffan i gwmpasu'r blynyddoedd nesaf.

Tynnodd Ms Gwenllian sylw at y pwysigrwydd aruthrol y mae'r Celfyddydau wedi'i gael - nid yn unig yn hanesyddol ac yn ddiwylliannol, ond ym mywydau bob dydd y cyhoedd. Cyfeiriodd at y defnydd o gerddoriaeth, llyfrau, teledu a ffilm fel ffyrdd o ddelio â'r "pwysau seicolegol sylweddol" mae'r argyfwng a'r cyfnod cloi wedi ei roi ar bobl.

Meddai Siân Gwenllian, AS a Gweinidog Cysgodol dros Addysg, Y Gymraeg a Diwylliant,

“Mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn barod i gamu i’r adwy. Nid yw'r cyhoeddiad hir-ddisgwyliedig gan Lywodraeth y DU ynglŷn â'r cymorth ariannol i'r sector celfyddydau wedi’i wneud o hyd, sy'n golygu nad oes unrhyw arwydd o gyllid canlyniadol i Gymru. Rhaid i Lywodraeth Cymru lunio cynllun pwrpasol ar gyfer y diwydiant hwn sydd mewn trafferthion, gan ddefnyddio ei hadnoddau ei hun cystal ag y gall yn niffyg cefnogaeth gan y Torïaid yn San Steffan. Siawns nad oes hyblygrwydd yn y cynllun ar gennad (furlough) fel y gall ei gweithwyr barhau i gael eu talu tra bod diwydiannau eraill yn gallu dechrau eto?

“Mae'r Celfyddydau'n chwarae rhan allweddol yma yng Nghymru; nid yn unig yn hanesyddol ac yn ddiwylliannol, ond yn ein bywydau bob dydd. Mae wedi chwarae rhan hollbwysig wrth helpu pobl i ymdopi â'r pwysau seicolegol sylweddol a achosir gan y cyfnod cloi; rydym i gyd wedi cymryd cysur mewn cerddoriaeth, llyfrau, teledu, neu ffilmiau – holl gynnyrch sector y celfyddydau.

“Os yw'r diwydiant yn cael ei gefnogi'n iawn, gall barhau i chwarae rhan ganolog yn ein bywydau, a gall ein helpu i brosesu'r hyn rydym wedi'i wneud gyda'n gilydd yn ystod y cyfnod digyffelyb hwn.

“Er mwyn cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru, mae'n ddyletswydd arnom i warchod y rhan hollbwysig hon o'n cymdeithas. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn cyfeirio at dystiolaeth sy'n dangos bod ‘gwerthfawrogi'r celfyddydau a chreadigrwydd yn fuddiol ar gyfer ein lles economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol’. Ni allwn amddifadu ein hunain, na'n plant a'n hwyrion o gyfrannwr mor arwyddocaol at les.”

Meddai Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Arad Goch,

“Rydym mewn sefyllfa eithaf anobeithiol fel mae’n sefyll - mae incwm o berfformiadau byw wedi diflannu tra bod theatrau ar gau, sy'n golygu mai arian ychwanegol yw'r unig ffordd y bydd theatr yn goroesi ac yn parhau i fod yn hyfyw yng Nghymru.

“Ni ddylid tanbrisio effaith a rôl cwmnïau theatr bach yn y gymuned. Mae Arad Goch yn cyrraedd dros 24,000 o blant a phobl ifanc yn flynyddol, ac mae'n chwarae rhan bwysig mewn targedau Iaith Gymraeg y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gosod. Mae'n bwysig bod plant a phobl ifanc yn dod i gysylltiad â'r Gymraeg o fewn y celfyddydau i ddeall bod yr iaith yn cael ei defnyddio ac yn werthfawr ym mhob rhan o'r gymdeithas, nid dim ond mewn ysgolion. Mae gan ein gwaith hefyd ran i'w chwarae yn lles plant a phobl ifanc fel y gwnaed mewn cynhyrchiad diweddar o ‘TU FEWN TU FAS’ am effaith ACEau ar iechyd meddwl plant. Mae'r cwmnïau cynyrchiadau theatr yng Nghymru, gan gynnwys y cwmnïau theatr cymunedol, yr un mor bwysig a dan fygythiad â'r theatrau mawr a'r canolfannau celfyddydol.

“Os nad yw Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod arian yn llifo drwy'r diwydiant i'w gadw i fynd, bydd dyfodol y theatr Gymraeg yn llwm iawn yn wir. Mae angen buddsoddiad uniongyrchol a strategol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gwmpasu'r flwyddyn neu ddwy nesaf o leiaf.

“Mae economi y theatr yng Nghymru wedi bod yn cael trafferth ers blynyddoedd – yn wir, y Celfyddydau yw'r un o’r rhai cyntaf i gael ergyd pan fydd toriadau. Mae staff o fewn y diwydiant, yn enwedig mewn cwmnïau bach a chanolig, eisoes dan bwysau, gan lenwi sawl rôl ar yr un pryd; does dim hyblygrwydd ganddom ni am fisoedd heb incwm.”