Mae gan lywodraeth Cymru gwestiynau difrifol i'w hateb dros ddyfarnu arian cyhoeddus i wneuthurwr arfau sy'n cyflenwi Israel
Mae Plaid Cymru wedi condemnio Llywodraeth Cymru am ddyfarnu arian cyhoeddus i wneuthurwr arfau sy'n allforio offer milwrol i Israel, er i'r Prif Weinidog sicrhau nad yw hyn yn wir ym mis Rhagfyr 2024.
Mae cais Rhyddid Gwybodaeth gan Amnest Rhyngwladol y DU wedi canfod bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi £500,000 o gyllid grant i gwmni sy'n cyflenwi arfau i Israel.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod y datguddiad hwn yn "sioc ac yn gywilyddus" a bod gan Lywodraeth Lafur Cymru "gwestiynau difrifol i'w hateb". Cyhuddodd hefyd y Prif Weinidog o gamarwain y Senedd.
Unwaith eto, anogodd Mr ap Iorwerth i’r gymuned ryngwladol roi'r gorau i droi eu pen o'r erchyllterau sy'n digwydd yn Gaza gan alw ar Lywodraeth y DU i osod embargo cyflawn, cydnabod gwladwriaeth Palestina, ac i weithredu sancsiynau pellach ar Israel.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:
"Mae'r datgeliad bod y Prif Weinidog wedi camarwain y Senedd ynglŷn â darparu £500,000 o arian trethdalwyr Cymru i wneuthurwr arfau y gallai ei gynhyrchion fod wedi cael eu defnyddio i danio troseddau rhyfel Israel yn erbyn pobl Palestina yn sioc ac yn gywilyddus.
"Honnodd y Prif Weinidog nad oedd unrhyw gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru wedi'i ddarparu i gwmnïau yng Nghymru sy'n allforio arfau i Israel ers mis Hydref 2023, ond rydyn ni bellach yn gwybod nad yw hyn yn wir. Mae gan Lywodraeth Lafur gwestiynau difrifol i'w hateb.
"Mae Plaid Cymru unwaith eto yn galw ar Lywodraeth Lafur y DU i osod embargo arfau cyflawn, cydnabod gwladwriaeth Palestina, a gweithredu sancsiynau pellach ar lywodraeth Israel ar unwaith. Ni all y gymuned ryngwladol barhau i droi llygad dall i'r erchyllterau sy'n digwydd bob dydd yn Gaza."