Byddai gwneud hanes Cymru a hanes pobl dduon a phobl groenliw yn rhan statudol o'r cwricwlwm newydd yn "symudiad hanesyddol", meddai Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru, Siân Gwenllian AS

Bydd dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher 1 Gorffennaf), dan arweiniad Plaid Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud addysgu hanes Cymru ac addysgu hanes pobl dduon a hanes pobl groenliw yn orfodol yn y cwricwlwm newydd.

O dan gynlluniau cwricwlwm presennol Llywodraeth Cymru, ni fyddai'n rhaid i ysgolion addysgu disgyblion am hanes pobl dduon a hanes pobl groenliw, nac ychwaith am hanes Cymru.

Dywedodd Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru, Siân Gwenllian AS, y byddai gwneud yr elfennau hyn yn statudol yn cyflwyno "cyfle hanesyddol" i unioni anghydraddoldeb strwythurol yng Nghymru a sicrhau bod y system addysg yn creu "Cymru gyfartal a chynhwysfawr i bawb yn y dyfodol".

Anogodd Ms Gwenllian Lywodraeth Cymru i fanteisio ar y cyfle.

Mae 30,000 o bobl wedi llofnodi deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn orfodol i ysgolion addysgu hanes pobl dduon a phobl groenliw yn y Deyrnas Unedig yn ysgolion Cymru.

Roedd yr adroddiad a gomisiynwyd gan y Prif Weinidog Mark Drakeford - i ddeall pam mae Covid-19 yn cael effaith anghymesur ar bobl BAME - yn argymell gweithredu ar unwaith i gynnwys hanes ac addysg BAME yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru i ddisgyblion cynradd ac uwchradd i "atal hiliaeth a hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol".

Cyhoeddir Bil Cwricwlwm drafft Llywodraeth Cymru ar yr 8fed o Orffennaf.

Meddai Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru, Siân Gwenllian AS,

“Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers meitin y dylai hanes Cymru fod yn elfen statudol o'r cwricwlwm newydd er mwyn i bob plentyn gael cyfle i wybod a deall hanes ein cenedl.

“Fodd bynnag, mae'r protestiadau diweddar Mae Bywydau Duon o Bwys wedi taro ffocws clir ar yr angen i gynnwys hanes pobl dduon a phobl groenliw hefyd fel rhan statudol o'r cwricwlwm.

“Ar hyn o bryd, nid yw Bil Cwricwlwm Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn orfodol i unrhyw ysgol addysgu hanes Cymru na hanes pobl dduon. Yn hytrach, mae'n gadael yr elfennau hynny'n ddewisol i ysgolion unigol.

“Mae cwricwlwm cwbl benagored yn golygu na fydd pob disgybl yn cael y cyfle i ddysgu am faterion sydd, yn ein cred ni, yn allweddol i greu cymdeithas fwy cyfartal a ffyniannus ac i siapio dinasyddion sy'n ymwybodol o'u gorffennol.

“Ond mae gwneud yr elfennau hyn yn rhan statudol o'r cwricwlwm newydd yn cyflwyno cyfle hanesyddol i unioni anghydraddoldeb strwythurol yng Nghymru a sicrhau bod y system addysg yn creu Cymru gyfartal a chynhwysfawr i bawb yn y dyfodol. Bydd yn sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn dysgu am wrth-hiliaeth ac am amrywiaeth Cymru - a'u bod yn gallu gweld y byd drwy ffenestr y wlad y maent yn byw ynddi – Cymru.

“Byddai'n drasiedi pe na bai Llywodraeth Cymru yn manteisio ar y cyfle hwn.”