Galw am Gynllun Gwarantu Cyflogaeth Ieuenctid
Byddai Plaid Cymru yn blaenoriaethu creu swyddi i bobl ifanc sy'n gadael addysg amser llawn
Dylid gwarantu fod pob person 18-24 oed yn cael cyfle gwaith yn ôl Helen Mary Jones, AS, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi.
Mae ymchwil gan y Resolution Foundation yn dangos y bydd pobl ifanc 18-24 oed yn cael eu taro caletaf gan argyfwng Coronafeirws. Golyga hyn y bydd 600,000 yn ychwanegol o bobl ifanc rhwng 18 a 24 oed yn y DU yn ddiwaith dros y flwyddyn nesaf, gan ddod â'r cyfanswm i tua 1 miliwn.
Dywedodd Helen Mary Jones AS y byddai cynllun gwarantu cyflogaeth yn atal y bobl ifanc hyn rhag dioddef yn fwy na unrhyw grwp oedran arall.
Dywedodd Ms Jones y gellid sefydlu cynllun drwy greu Cronfa Cymru’r Dyfodol a fyddai'n cynnig swydd i bob person ifanc 18-24 oed di-waith yng Nghymru, gyda'r meini prawf canlynol ar gyfer y gyflogaeth:
- leiaf 25 awr yr wythnos;
- Talu’r isafswm cyflog o leiaf;
- Yn ychwanegol - ni fyddai’r swydd fel arall yn cael ei llenwi gan y cyflogwr fel rhan o’i f/busnes craidd, ac na fyddai’n bodoli heb gyllid Gronfa Cymru’r Dyfodol;
- Rhaid para am o leiaf chwe mis;
- Bod o fudd i gymunedau lleol;
- Rheidrwydd ar y darparwyr i roi cyflogaeth i’r gweithwyr iddynt allu symud i waith tymor-hir estynedig.
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio mwy ar uwch-sgilio gweithlu Cymru, ond mewn amgylchedd lle mae llawer o fusnesau'n cau eu drysau, dywed Ms Jones mai “swyddi sydd ei angen ar Gymru nawr.”
Meddai Helen Mary Jones AS, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi,
“Mae'r argyfwng Coronafeirws wedi tynnu sylw at anghydraddoldebau cymdeithasol a pa mor fregus yw bywyd bob ddydd i lawer o bobl yng Nghymru - ac mae pobl ifanc yn cael eu taro caletaf mewn sawl ffordd.
“Pobl ifanc sy'n gweithio'n bennaf yn rhai o'r sectorau sy'n cael eu taro caletaf, fel lletygarwch, ac maent yn colli eu swyddi. Mae perygl gwirioneddol y bydd y rhai sy'n gadael yr ysgol a graddedigion Prifysgol yn wynebu diweithdra pan fyddant yn ymuno â'r farchnad swyddi ôl-COVID. Bydd hyn yn achosi niwed hirdymor i'w rhagolygon swyddi oni ddarperir cymorth newydd cynhwysfawr.
“Byddai'r Gwarant Cyflogaeth sydd wedi'i chostio'n llawn, a gynhigiwyd gan Blaid Cymru, yn rhoi cyfle am swydd i bob person 18-24 oed cyn gynted â phosibl, gan fynd y tu hwnt i Warant Ieuenctid yr UE hyd yn oed.
“Mae uwch-sgilio gweithlu wrth gwrs yn bwysig, ond nid yw'n ddigonol ar ei ben ei hun. Yr hyn y mae ar Gymru ei angen yn awr yw cyfleoedd am swyddi i'r rhai sy'n gadael addysg amser llawn ac i bobl ifanc sydd wedi colli eu swyddi. Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn gwneud hyn yn flaenoriaeth.”