Amaeth a'r Dyfodol

Mae Plaid Cymru’n cydnabod y cyfraniad enfawr y mae’r sector amaethyddol yn ei wneud i Gymru. Mae’r heriau niferus y mae’r sector yn eu hwynebu yn golygu ei bod yn bryd ffurfio cyddestun newydd i amaethyddiaeth yng Nghymru, gan ddechrau drwy roi gwydnwch ein ffermydd teuluol wrth galon dadeni’r diwydiant. Mae ailddyrannu ein system cymorth i ffermydd ar gyfer y cyfnod ar ôl Covid a Brexit yn rhoi cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ni wneud y newidiadau pendant sydd eu hangen, gan ganolbwyntio ar gynaliadwyedd a chydweithio.

Rydyn ni’n cefnogi ffermwyr Cymru yn eu nod i fod yn un o’r sectorau ffermio mwyaf amgylcheddol gynaliadwy yn y byd.

Byddwn ni’n cyflwyno Bil Amaethyddiaeth i Gymru a fydd yn rhoi mwy o bwyslais ar les cyhoeddus fel datgarboneiddio, cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, a mwy o fioamrywiaeth.

Rydyn ni hefyd yn cydnabod y ffaith, os yw ffermydd am fod yn amgylcheddol gynaliadwy, bod rhaid iddyn nhw fod yn economaidd gynaliadwy. Byddwn ni’n cyflwyno taliad cymorth sylfaenol er mwyn cynnig mwy o sefydlogrwydd economaidd i’r diwydiant. Bydd y gefnogaeth hon yn cael ei defnyddio i annog y safonau uchaf o iechyd y cyhoedd a iechyd a lles anifeiliaid, ac i hwyluso symudiad tuag at ffermio carbon isel a gwerth natur uchel.

Byddwn ni hefyd yn defnyddio buddsoddiad ehangach i gefnogi symudiad at ffurfiau mwy cynaliadwy ac amrywiol o ddefnyddio tir, gan gynnwys ffermio organig, amaethyddiaeth adfywiol, amaethgoedwigaeth, a ffermio cymysg.

Bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn ymrwymo i ddefnydd llawn o gyllid Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-20 yr Undeb Ewropeaidd erbyn 2023. Byddwn ni hefyd yn cadw ymrwymiad i’n dyraniad ni o gyllid tuag at yr hyn fyddai wedi dilyn y rhaglen, sef Rhaglen Datblygu Gwledig 2021-27. Byddwn ni’n comisiynu adolygiad annibynnol o effeithiolrwydd a gwerth am arian prosiectau’r Rhaglen Datblygu Gwledig hyd yma, a fydd yn llywio ein cynigion ar gyfer cefnogaeth i gefn gwlad yn y dyfodol.

Amaeth, Cefn Gwlad a Thwristiaeth: darllen mwy