System Fwyd Cymru

Mae Plaid Cymru’n dymuno gweld Cymru lle mae gan bawb fynediad urddasol at fwyd maethlon sydd wedi’i gynhyrchu’n gynaliadwy, mewn ffordd sy’n sicrhau incwm teg i ffermwyr a holl weithwyr y sector bwyd.

Bydd Llywodraeth Plaid Cymru’n datblygu strategaeth system fwyd i Gymru drwy sefydlu Comisiwn System Fwyd traws-sectorol, a fydd â’r cyfrifoldeb o ddatblygu map ffordd tuag at ‘System Fwyd sy’n Addas ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol’.

Byddwn ni’n cynyddu capasiti cynhyrchu Cymru drwyddi draw. Bydd dad-wneud y lleihad mewn capasiti prosesu lleol yn gam cadarnhaol ar gyfer y cymunedau sy’n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd gwledig, ar gyfer lles anifeiliaid, ar gyfer mynd i’r afael â’r newid hinsawdd, ac ar gyfer yr economi wledig.

Dylai pob caffaeliad cyhoeddus am fwyd flaenoriaethu prynu bwyd a gynhyrchwyd yng Nghymru. Gall caffael cyhoeddus lleol a rhanbarthol – er enghraifft mewn ysgolion, ysbytai a swyddfeydd cyngor –helpu i greu marchnadoedd i fusnesau bwyd lleol.

Yn ogystal, byddwn ni:

  • Yn hyrwyddo brand ‘Gwnaed yng Nghymru’ ar gynhyrchion bwyd o Gymru, gan weithio gyda chynhyrchwyr i greu cynhyrchion o ansawdd uchel i apelio at farchnad ehangach.
  • Yn creu llwyfan gwerthu ar-lein ar gyfer bwyd o Gymru i’r farchnad gartref.
  • Yn darparu cyllid cychwynnol i greu siopau dan berchnogaeth gydweithredol neu gyhoeddus, sy’n arbenigo mewn cynhyrchion a wnaed yng Nghymru, er mwyn rhoi mynediad i bobl at fwyd o ansawdd uchel, rhoi mynediad uniongyrchol at gwsmeriaid i gynhyrchwyr, ac i adfywio canol ein trefi.
  • Yn cefnogi datblygiad ffermydd trefol i greu systemau bwyd lleol iawn yn ein dinasoedd.

Amaeth, Cefn Gwlad a Thwristiaeth: darllen mwy