Grymuso Cymunedau Cefn Gwlad

Byddwn ni’n ailosod y gydberthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r diwydiant amaethyddiaeth. Bydd Senedd Wledig ymgynghorol, yn debyg yn ei ffurf i Gynulliad Dinasyddion, yn cryfhau llais cymunedau cefn gwlad ac yn helpu i ddylanwadu ar y penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.

Bydd cymorth i ffermydd yn y dyfodol yn targedu ffermwyr gweithredol, a bydd Plaid Cymru’n datblygu strategaeth i ddod â phobl newydd ac ifanc i’r diwydiant. Bydd ffermydd awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol, a byddwn ni’n gweithio gyda chyrff cyhoeddus a’r trydydd sector yn ehangach i ddod o hyd i ffyrdd o ddiogelu a gwella’r ystâd ffermydd gyhoeddus fel troedle pwysig ar gyfer pobl sy’n newydd i’r diwydiant yn y dyfodol.

Rydyn ni hefyd yn cydnabod y cyfraniad cymdeithasol ehangach pwysig y mae clybiau ffermwyr ifanc ledled Cymru’n ei wneud, a byddwn ni’n gweithio gyda’r Clybiau Ffermwyr Ifanc i ddatblygu ac i gynyddu’r rôl allweddol maen nhw’n ei chwarae yn ein cymunedau cefn gwlad.

Rydyn ni’n ymrwymo i ddefnyddio’r mesurau mwyaf effeithiol i reoli ac i waredu TB, gan ddefnyddio gwersi o lefydd eraill yn y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt. Byddwn ni hefyd yn cefnogi gwaith i daclo heriau iechyd anifeiliaid eraill, fel Dolur Rhydd Feirysol Buchol a’r Clafr.

Byddwn ni:

  • Yn gweithio’n agos gyda Chomisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â throseddu gwledig, yn benodol i geisio datganoli grymoedd i allu gweithredu’n fwy ar ymosodiadau cŵn ar dda byw ffermydd.
  • Yn cefnogi diwydiant Gwlân Cymru, drwy annog defnydd o wlân Cymru mewn adeiladau cyhoeddus ac wrth adeiladu tai a phrosiectau adnewyddu, ynghyd â chefnogi ymdrechion i gynyddu ymchwil i Wlân Cymru a chapasiti prosesu.
  • Yn buddsoddi mewn gwyddoniaeth a thechnoleg wledig i ymchwilio, datblygu a hyrwyddo dulliau mwy cynaliadwy o fodloni anghenion. Byddwn ni’n canolbwyntio’n benodol ar arloesedd yn ymwneud ag ymaddasu i newid hinsawdd, effeithlonrwydd defnydd o adnoddau, lleihau gwastraff, gwella cnydau a da byw, a rheoli plâu a chlefydau.
  • Yn gweithio gyda ffermwyr i leihau effaith a’r defnydd o wrteithwyr, plaleiddiaid, chwynladdwyr, gwrthfiotigau, a lefelau gwastraff nitrad.
  • Yn anelu i gynyddu lefel y ffermio organig yng Nghymru yn sylweddol, a thyfu’r sector garddwriaeth yn sylweddol.
  • Yn gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wella cysylltedd gwledig – yn benodol gwasanaethau band llydan a ffonau symudol.
  • Yn ymrwymo i weithio gydag elusennau iechyd meddwl gwledig, undebau ffermio, Clybiau Ffermwyr Ifanc ac eraill er mwyn sicrhau bod cymorth a chyngor ar gael ac yn hygyrch i bawb sydd ei angen.

Bydd Plaid Cymru’n ailedrych ar reoliadau Parthau Perygl Nitradau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru ychydig wythnosau cyn yr etholiad.

Roedd gorfodi Parth Perygl Nitradau Cymru gyfan yn mynd yn groes i gyngor ymgynghorydd statudol Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydyn ni o’r farn bod y rheoliadau’n anghymesur, ac y gallai ymagwedd ‘ffermio ar sail y calendr’ achosi digwyddiadau llygredd eraill. Bydd y buddsoddiad cyfalaf y bydd ei angen i fodloni’r rheoliadau newydd (yr amcangyfrifir eu bod hyd at £360 miliwn gan y Llywodraeth) bron £100 miliwn yn uwch na chyfanswm yr incwm o ffermio yng Nghymru yn 2019. Bydd hyn yn gorfodi llawer o fusnesau allan o fusnes.

Yn hytrach, byddwn ni’n gweithio gyda’r diwydiant, Cyfoeth Naturiol Cymru, a rhanddeiliaid eraill i ddiddymu Parthau Perygl Nitradau Llafur, a chyflwyno rheoliadau wedi’u targedu’n well yn ein chwe mis cyntaf yn y Llywodraeth. Bydd hyn yn cael ei ategu ag ymagwedd wirfoddol wydn mewn meysydd eraill, yn seiliedig ar gynlluniau sydd wedi dangos llwyddiant yn lleihau lefelau nitradau.

Amaeth, Cefn Gwlad a Thwristiaeth: darllen mwy