Lles Anifeiliaid

Bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid i adeiladu ar y lefel uchel o safonau lles anifeiliaid sydd eisoes ar waith yng Nghymru. Byddwn ni:

  • Yn gwella gwaith gorfodi a gweithredu gofynion trwyddedu mewn perthynas â sefydliadau bridio cŵn yng Nghymru, gan adeiladu ar adolygiad diweddar Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru o’r rheoliadau.
  • Yn gwella ar les ceffylau drwy weithredu ar rwymau ceffylau.
  • Yn adolygu’r maes gwerthu anifeiliaid anwes, gan ganolbwyntio’n benodol ar reoleiddio gwerthu anifeiliaid ar-lein.
  • Yn cyhoeddi cynigion tenantiaeth model ar anifeiliaid anwes mewn cartrefi cymdeithasol, ac yn gweithio i leihau rhwystrau rhwng perchnogion anifeiliaid sy’n ddigartref a llochesi digartref.
  • Yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu Codau Ymarfer statudol ar gadw anifeiliaid egsotig yng Nghymru.
  • Yn gwahardd cadw primatiaid fel anifeiliaid anwes.
  • Yn rhoi diwedd ar roi anifeiliaid anwes fel gwobrau.

Amaeth, Cefn Gwlad a Thwristiaeth: darllen mwy