Pysgodfeydd, Bwyd Môr a Dyframaethu

Mae gan sectorau pysgodfeydd, bwyd môr a dyframaethu Cymru gyfle i ddatblygu ac i gyfrannu at uchelgais Cymru i fod yn flaengar ym maes cynhyrchu bwyd cynaliadwy. Mae mwy o botensial allforio i bysgodfeydd Cymru hefyd nag sydd ganddon ni ar hyn o bryd. Mae’n rhaid manteisio ar dechnoleg a datblygiadau newydd ochr yn ochr ag ymagwedd fwy agored a chynhwysol tuag at reoli pysgodfeydd, lle mae gwyddoniaeth dda, ymgysylltu ac ymchwil wrth galon ymagwedd o gyd-reoli gyda’n cymunedau pysgota.

Mae’r sector wedi wynebu llawer o heriau yn y blynyddoedd diwethaf, gyda Brexit a phandemig Covid-19 yn eu plith. Mae Plaid Cymru’n ymroddedig i gyflwyno Bil Pysgodfeydd Cymru. Byddwn ni’n gweithio gyda rhanddeiliaid y diwydiant i ddatblygu polisi pysgodfeydd a dyframaethu, a fydd wedi’i gefnogi gan strategaeth sydd â chynaliadwyedd, buddsoddi ac ymgysylltu â’r diwydiant wrth ei wraidd.

Amaeth, Cefn Gwlad a Thwristiaeth: darllen mwy