A ydych yn frwd am eich cymuned leol?

Oes yna rywbeth yn eich ardal yr ydych am ei newid neu ei warchod?

Beth am fod yn Bencampwr Cymuned?

Mae gan Blaid Cymru bencampwyr cymuned ledled Cymru, wedi eu hethol i Gynghorau – Tref, Cymuned a Sir – i wasanaethau buddiannau ein cymunedau.

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr brwdfrydig, o bob math o gefndir, i gynrychioli ein cymunedau a Phlaid Cymru ar lefel leol. Yn gyfnewid am hyn, bydd Plaid Cymru yn cynnig rhaglen gynhwysfawr i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.

O wella eich parciau lleol a chael y tyllau annifyr yna yn y ffordd wedi eu llenwi, i sicrhau bod ein hysgolion, tai a gwasanaethau cymdeithasol lleol yn addas at y diben, mae Cynghorwyr yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd bywydau pobl leol.

Darllenwch fwy am rôl Cynghorydd isod. Os hoffech chi fynegi diddordeb mewn bod yn Bencampwr Cymuned Plaid Cymru, cofrestrwch heddiw!


1. Beth mae cynghorau’n wneud?

2. Cynghorau Tref / Cymuned

3. Pam fod yn Gynghorydd?

4. Os byddaf yn mynegi diddordeb, beth fydd yn digwydd nesaf?

5. Helpwch ni i ddeall y rhwystrau i fod yn Bengampwr Cymuned