Yn gyntaf, cewch ‘Ddiolch yn Fawr’ gennym ni am ystyried bod yn Bencampwr Cymuned Plaid Cymru!

Does dim rheidrwydd arnoch i wneud unrhyw beth yn y cyfnod hwn. Mae mynegi eich diddordeb yn ffordd i ni adnabod ymgeiswyr posib ar hyd a lled y wlad a beth yw’r ffordd orau i’r blaid eu cefnogi.
Yn fuan wedi mynegi diddordeb, bydd dau beth yn digwydd:

  1. Fe ddewch i wybod mwy am fod yn ymgeisydd Plaid Cymru; y gefnogaeth a gewch trwy gydol y broses, ac yn wir, beth yw’r broses ffurfiol o ddod yn ymgeisydd.  Mae gan ein haelodaeth leol, trwy gydol strwythur y gangen, ran bwysig i'w chwarae wrth ddewis ymgeiswyr. Byddwn yn dweud popeth wrthych pan fyddwch yn cofrestru.
  2. Hoffem wybod tipyn bach mwy amdanoch. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn grymuso mwy o fenywod ac ymgeiswyr o grwpiau a dangynrychiolir i sefyll dros Blaid Cymru. Byddwn mewn cysylltiad i ofyn am fwy o wybodaeth yn hyn o beth, a rhoi gwybod mwy i chi am y rhaglen fentora am ddim a all fod ar gael i chi.

Dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, bydd Plaid Cymru yn cefnogi ein Hadrannau cysylltiedig (Ieuenctid, Menywod, BME, Pride) i gynnal cyfres o ddigwyddiadau gwybodaeth ar-lein lle gallwch glywed gan rai o’n cynghorwyr presennol am eu swyddogaethau fel pencampwyr cymuned.

Gobeithio y bydd yr holl wybodaeth a roddwn dros yr wythnosau nesaf - boed arlein, ar fideo neu trwy e-bost - fe wnawn eich helpu i benderfynu a ydych eisiau bwrw ymlaen a bod yn un o’n cannoedd o bencampwyr cymuned ym mhob cwr o Gymru.

Felly, beth am gofrestru eich diddordeb mewn dod yn Bencampwr Cymuned Plaid Cymru heddiw?


1. Beth mae cynghorau’n wneud?

2. Cynghorau Tref / Cymuned

3. Pam fod yn Gynghorydd?

4. Os byddaf yn mynegi diddordeb, beth fydd yn digwydd nesaf?

5. Helpwch ni i ddeall y rhwystrau i fod yn Bengampwr Cymuned