Plaid Cymru yn annog y Canghellor i beidio ag ail-adrodd methiannau’r blynyddoedd llwm

Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS, heddiw (Sul 28 Chwefror) wedi galw ar y Canghellor, Rishi Sunak AS, i osod allan gynllun adfer fydd yn “sicrhau swyddi heddiw ac yn ail-gydbwyso’r economi ar gyfer yfory”.

Wrth ysgrifennu yn Wales on Sunday, rhybuddiodd AS Ceredigion y Canghellor rhag “tynnu’r plwg yn rhy gynnar” trwy roi blaenoriaeth i “ddisgyblaeth ariannol”, term sydd, yn ôl Mr Lake, yn “gôd am lymder, gyda’i ddinistr yn parhau i gael ei deimlo mewn cymunedau ledled y DU.”

Dywedodd Mr Lake y dylid dal ymlaen â’r cynnydd mewn Credyd Cynhwysol, y cynllun ffyrlo, a chynlluniau i’r hunangyflogedig gyda newidiadau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, gan ychwanegu bod “aros i’r argyfwng iechyd lacio cyn cau’r cynlluniau cefnogi hyn yn gwneud synnwyr economaidd”.

Wrth edrych i’r dyfodol, anogodd Ben Lake Lywodraeth y DU i “godi eu cap direswm a chaeth ar Lywodraeth Cymru”, cam a fyddai, meddai, yn rhoi i Gymru y “grym i gyflwyno’r symbyliad economaidd gwyrdd sy’n hanfodol i arwain y ffordd at ddyfodol tecach a mwy ffyniannus”.

Daw galwad AS Plaid Cymru yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU ar 24 Chwefror i atal Cymru rhag penderfynu sut y mae’n gwario’r arian a neilltuwyd trwy’r Gronfa Lefelu i Fyny. Nawr, Llywodraeth y DU fydd yn penderfynu sut y caiff arian trwy’r gronfa, yn ogystal â’r Gronfa a Rennir yn Gyffredin, ei wario yng Nghymru, sydd yn ymyrryd a phwerau datblygu economaidd a ddatganolwyd. Disgrifiodd Mr Lake y symudiad hwn fel un oedd yn “tanseilio democratiaeth Gymreig”.

Ysgrifenna Ben Lake AS:

“Pan fydd y Canghellor yn codi yn y Senedd ddydd Mercher, bydd ganddo ddewis naill ai o amddiffyn buddsoddiad trethdalwyr yn ein hadferiad, neu dynnu’r plwg yn rhy gynnar a gadael i’r cyfan lifo i ffwrdd - a’r adferiad yn ei sgil. Dyma’i gyfle i osod allan adferiad fydd yn sicrhau swyddi heddiw ac yn ail-gydbwyso’r economi ar gyfer yfory.”

 yn ei flaen:

“Mae adroddiadau’n frith fod y Canghellor, ceidwadwr ariannol yn ôl ei gyfaddefiad ei hun, yn awyddus i dorri gwariant ar gynlluniau cefnogi a chodi trethi dan gochl ‘disgyblaeth ariannol’. Nid term economaidd yw hwn yn gymaint ag arwyddair i’r blaid Geidwadol am sut i ymbellhau yn wleidyddol oddi wrth y blaid Lafur. Côd am lymder yw ‘disgyblaeth ariannol’, ac y mae’r dinistr hwnnw yn dal i gael ei deimlo mewn cymunedau ledled y DU.

“Er mwyn amddiffyn incwm a swyddi, cred Plaid Cymru nid yn unig y dylid parhau â’r cynnydd mewn Credyd Cynhwysol, ond y dylid hefyd ymestyn y cynllun ffyrlo a hunangyflogaeth, gyda newidiadau, am y flwyddyn ariannol nesaf.

“Mae aros i’r argyfwng iechyd lacio cyn cau’r cynlluniau cefnogi hyn yn gwneud synnwyr economaidd. Byddai gwneud hynny yn sicrhau parhad cefnogaeth i fusnesau a gwaith tra byddwn yn dod i well dealltwriaeth o amodau newydd y farchnad, ac ymaddasu i hynny.”

I gloi, dywed Mr Lake:

“Byddwn yn galw ar lywodraeth y DU i godi eu cap direswm a chaeth ar Lywodraeth Cymru i roi i Gymru y pwerau benthyca i fuddsoddi yn ein blaenoriaethau. Wedi tanseilio democratiaeth Cymru trwy Ddeddf y Farchnad Fewnol, y Gronfa a Rennir yn Gyffredin ac yn awr y Gronfa Lefelu i Fyny - rhaid i Lywodraeth y DU yn awr roi arwydd o’i ffydd yng Nghymru trwy roi i ni y pwerau i gyflwyno’r hwb economaidd gwyrdd sy’n hanfodol i arwain y ffordd at ddyfodol tecach a mwy ffyniannus.

“Bydd ein hadferiad yn fwy gwydn ac yn fwy atebol os cymerir penderfyniadau mor agos ag sydd modd i’n cymunedau.

“Ym mhob ffordd, mae’r Gyllideb hon yn bwysicach o lawer na’r un ddiwethaf a bydd yn pennu sut ddyfodol fydd gennym wedi’r pandemig. Gobeithio y bydd y Canghellor yn rhoi bywoliaethau a thegwch cyn pleidgarwch ac ideoleg.”