Mae'r Llywodraeth Lafur yn trin busnesau Cymru â “dirmyg” drwy beidio â darparu digon o gefnogaeth a llwybr cliriach allan o'r cyfyngiadau symud, meddai Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

Er bod y Llywodraeth Lafur yn barod i fynd y “camau ychwanegol” dros gwmnïau rhyngwladol mawr fel Aston Martin, Amazon ac Ineos, dywedodd Mr Price nad oeddent yn rhoi “ddigon o gefnogaeth” i fusnesau ar lawr gwlad a busnesau annibynnol yng Nghymru.

Ychwanegodd Arweinydd Plaid Cymru bod busnesau Cymru wedi cael eu “gadael yn y tywyllwch” pan ddaeth hi'n fater o ailagor heb unrhyw dargedau na dyddiadau ynglŷn â phryd y gallan nhw ddisgwyl ailagor yn ddiogel ar gyfer masnachu a galw am lwybr cliriach i roi mwy o eglurder i fusnesau.

Galwodd Mr Price hefyd am fwy o gymorth ariannol i fusnesau lletygarwch a hamdden Cymru ar ffurf grantiau ailgychwyn untro i helpu gyda chostau ailagor.

Bydd ceisiadau am Gronfa Busnes Cyfyngiadau Llywodraeth Lafur Cymru yn cau ar 31 Mawrth 2021 heb gyhoeddi cynllun olynol eto. Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi addo grantiau o hyd at £7,500 i fanwerthwyr a hyd at £19,500 ar gyfer busnesau lletygarwch a hamdden a delir ym mis Ebrill i helpu busnesau i ailagor yn raddol.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price,

“Mae'r Llywodraeth Lafur – sydd bob amser yn barod i fynd y camau ychwanegol i gwmnïau rhyngwladol fel Aston Martin, Amazon ac Ineos – yn trin busnes annibynnol cynhenid Cymru gyda dirmyg drwy beidio â rhoi digon o gymorth ariannol iddynt neu lwybr allan o'r cyfyngiadau symud. Mae'r diffyg chwarae teg i fân-werthwyr bach sydd ddim yn hanfodol hefyd yn rhan o'r syndrom ehangach hwn o siomi busnesau Cymru, tra'n parablu ystrydebau am ddifetha’r economi sylfaenol. 

“Gyda'r rownd ddiweddaraf o gefnogaeth economaidd yn dod i ben ar 31 Mawrth a heb unrhyw sicrwydd gwirioneddol pryd y gellir disgwyl iddynt ailagor ar gyfer masnach, mae busnesau Cymru wedi cael eu gadael yn y tywyllwch i wywo ar y gangen. Ble mae'r gefnogaeth ymarferol i fusnesau Cymru sy’n meddwl tybed a ddylent recriwtio neu gadw staff a chymryd risg ychwanegol? Does dim byd ond distawrwydd byddarol.

“Yn y cyfamser, mae Llywodraeth yr Alban wedi dweud y byddant yn darparu grantiau ailgychwyn i helpu busnesau'r Alban gyda chostau ailagor ochr yn ochr â chynllun llawer cliriach, heb orfod troi at ffug sicrwydd na sicrwydd cynamserol.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru ddilyn ei hesiampl a rhoi cymorth ariannol i fusnesau lletygarwch a hamdden Cymru ar ffurf grantiau ailgychwyn untro i helpu gyda chostau ailagor.

“Mae'r cydbwysedd rhwng darparu gobaith a chodi disgwyliadau afrealistig yn llinell anodd ei throedio. Ond yr hyn y mae busnesau Cymru, yn enwedig y sector lletygarwch, yn ei wynebu ar hyn o bryd yw gêm ddyfalu hir gyda chynlluniau amwys, mwy o rwystrau ffordd na llwybr clir.

“Nid ydym yn galw am ddyddiad mympwyol ar gyfer dod â'r holl gyfyngiadau i ben – dim ond mwy o dryloywder rhwng nawr a diwedd mis Mehefin ar yr hyn sy'n debygol o ddigwydd i ganiatáu i fusnesau gynllunio ymlaen llaw. Drwy beidio â darparu'r lefel honno wybodaeth mae’n golygu bod Llafur yn siomi busnesau Cymru yn fawr yn ogystal â’r gweithwyr a'r cymunedau sy'n dibynnu arnynt.”