Llythyr agored at y Prif Weinidog Mark Drakeford gan Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS a Gweinidog Diwylliant yr Wrthblaid Sian Gwenllian AS yn rhybuddio y gallai’r sector gwympo o fewn “mis” heb weithredu brys

Mae’r gantores Charlotte Church a’r delynores Catrin Finch ymhlith y dwsinau o ffigyrau blaenllaw o fewn y celfyddydau yng Nghymru sydd yn cefnogi galwad Plaid Cymru am “arweinyddiaeth gadarn” i arwain y sector allan o argyfwng yn sgil Covid-19.

Cadarnhaodd Llywodraeth San Steffan dros nos y byddai Cymru yn cael £59m allan o becyn cymorth Coronafirws gwerth £1.57bn ar gyfer y celfyddydau.

Mae llythyr agored at y Prif Weinidog Mark Drakeford gan Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS a Gweinidog Diwylliant yr Wrthblaid Sian Gwenllian AS sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r £59 miliwn “yn llawn” ac am dri “ymyrraeth bendant a brys” gan Lywodraeth Cymru - gan gynnwys sefydlu a defnyddio tasglu brys sy'n cynnwys cynrychiolwyr y diwydiant; buddsoddi fel rhan o gynllun adfer Covid-19; a darparu cynllun clir ar adferiad, wedi'i gyd-lofnodi gan chwe deg saith o ffigurau blaenllaw yn y sector.

Mae'r llofnodwyr hefyd yn cynnwys yr actor Carys Eleri, bardd cenedlaethol Cymru Ifor ap Glyn a'r actor Mark Lewis Jones.

Mae ffigurau yn y diwydiant wedi rhybuddio bod sector y celfyddydau yng Nghymru yn wynebu’r posibilrwydd real o ddiswyddiadau eang - gan gynnwys colli 250 o swyddi yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Mae trosiant blynyddol y diwydiant yng Nghymru werth oddeutu £2.2 biliwn ac mae'n cyflogi tua 56,000 o bobl.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price,

“Heb amheuaeth, mae’r cyhoeddiad y bydd £59 miliwn ar gael i ddiwydiant celfyddydau Cymru yn rhyddhad mawr i nifer o fewn y sector. Ond nawr mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos arweiniad yng Nghymru trwy sefydlu tasglu sy'n sicrhau bod yr arian yn cael ei ddosbarthu'n deg ar draws y sector.

“Ar ôl siarad ag aelodau o sector y celfyddydau, mae’n amlwg eu bod wedi bod yn gweiddi nerth esgyrn eu pennau am gymorth, cefnogaeth ac arweinyddiaeth yn ystod yr argyfwng hwn. Mae ymgynghoriadau ar ddiswyddo yn digwydd nawr ledled y wlad ac ymhen ychydig wythnosau, bydd y broses honno’n ddi droi nol. Nid yw llawer o weithwyr llawrydd a ddisgynnodd trwy'r bylchau wedi derbyn ceiniog ers i'r argyfwng hwn ddechrau ac maent eisoes yn wynebu colli eu bywoliaeth.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru nawr ddangos arweinyddiaeth trwy weithio gyda’r diwydiant i greu cynllun clir, diogel a chyfrifol a fydd yn arwain y diwydiant a’r gweithwyr yr effeithir arnynt o’r argyfwng.

Meddai Gweinidog Diwylliant Cysgodol Plaid Cymru, Sian Gwenllian MS,

“Mae’r nifer enfawr o lofnodion y tu ôl i’r llythyr yn dangos y gefnogaeth dorfol sydd y tu ôl i achub y celfyddydau.

“Mae'r celfyddydau yn elfen mor werthfawr yng Nghymru, nid yn unig yn ddiwylliannol ond yn economaidd hefyd. Os gadewir i'r diwydiant gwympo byddai ôl-effeithiau trychinebus.

“Mae’n rhaid i gefnogaeth i’r sector gyfan a chydnabyddiaeth o’i rôl wrth helpu pobl ledled Cymru i fynegi a dehongli argyfwng Covid fod yn rhan ganolog ac annatod o gynlluniau adfer Covid Llywodraeth Cymru.