“Defnyddiwch arian dros ben i rewi’r dreth gyngor” – Cynlluniau ar gyfer diwygio’r drefn yn cael eu cyflwyno gan Plaid Cymru
Heddiw, mae Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS wedi cyflwyno ymrwymiad ei blaid i ddiwygio’r dreth gyngor pe bai’n ennill etholiad mis Mai, gan annog Llywodraeth bresennol Cymru yn y cyfamser i ddefnyddio ei chronfeydd dros ben i rewi’r dreth ar unwaith.
Gan gyfeirio at yr £800 miliwn o gyllid sydd heb ei gwario yng nghyllideb Llywodraeth Cymru eleni, defnyddiodd Adam Price AS Gwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw yn y Senedd i dynnu sylw at y ffaith y byddai’n costio £100 miliwn i ganiatáu i gynghorau Cymru rewi'r dreth gyngor a gwrthbwyso’r cynnydd cyfartalog o 4.8% a welwyd llynedd.
Gan ddyfynnu disgrifiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid o system treth gyngor Cymru fel “un hen, anflaengar a gwyrdroedig”, nododd Mr Price ymrwymiad Plaid Cymru i wneud y dreth gyngor yn decach ac yn fwy blaengar, gan ychwanegu y byddai 20% o aelwydydd ar yr incymau isaf o dan gynigion o'r fath yn gweld arbedion o leiaf £200.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS:
“Mae unrhyw sôn am y pandemig fel y ‘lefelwr mawr’ wedi cael ei chwalu’n llwyr gan y realiti llym sy’n wynebu miloedd o deuluoedd yng Nghymru.
“Mae Cyngor ar Bopeth Cymru wedi canfod bod teuluoedd Cymru wedi cael eu taro gan gyfanswm o £73 miliwn o ôl-ddyledion oherwydd eu bod yn cael trafferth gyda rhent, biliau ynni neu'r dreth gyngor dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae £13 miliwn yn ymwneud yn benodol ag ôl-ddyledion Treth y Cyngor.
“Dyna pam yr wyf wedi annog Llywodraeth Lafur Cymru i ddefnyddio £100 miliwn o'i chronfeydd sydd heb ei gwario o £800 miliwn i rewi’r dreth gyngor ar unwaith, gan wneud iawn am gynnydd cyfartalog y llynedd o 4.8%.
“Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn mynd ymhellach ac yn diwygio’r dreth gyngor i'w gwneud yn decach ac yn fwy blaengar. Byddwn yn ailbrisio, yn cynyddu nifer y bandiau ar ben uchaf gwerthusiadau cartrefi, ac yn sicrhau bod y dreth gyngor yn fwy cymesur â gwerth eiddo.
“Rydym yn disgwyl y bydd 20% o aelwydydd yn y pumed isaf o ddosbarthiad incwm o dan ein cynigion yn gweld eu treth gyngor yn gostwng mwy na £200.
“Fel y nodwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid sy'n disgrifio model treth gyngor presennol Cymru fel “un hen, anflaengar a gwyrdroedig”, byddai gwneud y dreth gyngor yn gymesur â’r gwerthoedd diweddaraf yn arwain at filiau cyfartalog yn gostwng mwy na £160 ym Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot a Blaenau Gwent.
“Byddai hon yn system decach o bell ffordd na’r hyn y mae Llafur wedi’i adael yn ei le ers gormod o amser.”