Eitem 6: Joe Calzaghe vs. Roy Jones Jr - Menig paffio wedi eu llofnodi. Wedi eu fframio.

Pris cadw: £600

‘Brwydr yr Uwch-Bwerau’

Cafodd gornest Joe Calzaghe vs. Roy Jones Jr, a alwyd yn Frwydr yr Uwch-Bwerau ei gynnal ar Dachwedd 8, 2008 yn Madison Square Garden yn Efrog Newydd. Roedd yr ornest hon ar gyfer Pencampwriaeth Pwysau Trwm Ysgafn y byd cylchgrawn y Ring.

Enillodd Calzaghe’r ornest gan benderfyniad unfrydol, gyda phob beirniad yn sgorio 118-109 i Calzaghe.

Dyma oedd gornest broffesiynol olaf Calzaghe. Ymddeolodd ym mis Chwefror 2009.

Mae BoxRec yn ystyried mai Calzaghe yw’r ymladdwr pwysau uwch-ganol gorau erioed yn ogystal â’r paffiwr Ewropeaidd gorau, pwys am bwys a fu erioed.

‘Roedd yn benderfyniad anodd ond rwy’ wedi cyflawni popeth rown i eisiau ei gyflawni mewn bocsio. Bûm yn bencampwr y byd am 11 mlynedd. Does gen i ddim byd arall i’w anelu ato. Dyna pam rwy’n dod â hwn i ben y mwdwl.’ - Joe Calzaghe