Mae Plaid Cymru yn galw am frechu athrawon cyn ailagor ysgolion, wrth i'r Blaid Lafur ymddangos yn rhanedig ar y mater ar ddau ben yr M4.

Er bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi diystyru blaenoriaethu athrawon ar gyfer brechu, roedd Arweinydd Llafur y DU Keir Starmer ac Ysgrifennydd Cysgodol Addysg Kate Green ddoe yn galw am ddefnyddio hanner tymor mis Chwefror fel ffenestr i frechu athrawon er mwyn gallu ailagor ysgolion yn ddiogel.

Dywedodd Gweinidog Addysg cysgodol Plaid Cymru, Siân Gwenllian AS mai diogelwch pob disgybl a staff ysgol ddylai fod yn brif sbardun polisi wrth baratoi ar gyfer ailagor ysgolion.

Gwnaeth Arweinydd Llafur y DU, Syr Keir Starmer, yr achos dros frechu athrawon yn ystod hanner tymor yng Nghwestiynnau i’r Prif Weinidog ddoe (dydd Mercher 27 Ionawr) – galwadau a adleisiwyd gan ei Ddirprwy Arweinydd, Angela Rayner mewn cyfweliad y bore yma (dydd Iau 28 Ionawr).

Dywedodd Gweinidog Cysgodol Addysg Plaid Cymru, Siân Gwenllian AS,

“O ran brechu athrawon, mae'r blaid Lafur yn wynebu'r ddwy ffordd yn San Steffan ac yng Nghymru.

“Mae Plaid Lafur y DU wedi galw'r wythnos hon am frechu athrawon, gan awgrymu bod hyn yn cael ei wneud yn ystod wythnos hanner tymor cyn i ysgolion ailagor. Ac eto, lle mae ganddynt bŵer - yng Nghymru - mae'r llywodraeth Lafur wedi diystyru blaenoriaethu rhoi'r brechlyn i athrawon.

“Dylai diogelwch pob disgybl a aelod o staff yr ysgol fod yn brif sbardun polisi wrth i ni baratoi ar gyfer ailagor, ac eto gofynnir i athrawon ac aelodau eraill o staff mewn ysgolion ddychwelyd er nad ydynt yn cael eu brechu.

“Ni ddylid dad-flaenoriaethu grwpiau bregus wrth i'r brechlyn gael ei gyflwyno, ond dylid ychwanegu staff ysgolion i fewn i’r ail gyfran, oni bai bod digon o gyflenwadau o frechlynnau yn caniatáu iddynt gael eu cynnwys yn gynharach. Bydd hyn yn rhoi'r hyder mwyaf posibl y gall ysgolion ailagor mor ddiogel â phosibl.

“Bydd hyn yn rhoi'r sicrwydd sydd ei angen ar athrawon, rhieni a disgyblion ac yn ei haeddu ar ôl misoedd o newid ac ansicrwydd o'r fath.”