Cymru 2035

Nid yw’r targed presennol o allyriadau carbon sero-net yng Nghymru erbyn 2050 yn ddigon cyflym. Yn lle, byddwn yn gosod targed i allu cyflenwi holl ynni Cymru – trydan, gwres, a thrafnidiaeth – o ynni adnewyddadwy yn llwyr erbyn 2035, gyda targed i Gymru gyflawni allyriadau carbon net-sero erbyn 2035.

Mae annibyniaeth yn hanfodol i ni allu cyrraedd y nod hwn. Serch hynny, os yw Cymru erbyn 2030 yn dal i ddibynnu ar benderfyniadau polisi allweddol sy’n cael eu gwneud yn San Steffan, mae’n bosib y byddwn ni’n cael ein gorfodi i addasu’r dyddiad targed.

Bydd Cymru 2035 yn dod yn genhadaeth genedlaethol draws-sectorol a thrawsgymunedol, fydd â’r cynlluniau canlynol:

  • Datgarboneiddio ein holl reilffyrdd erbyn 2035.
  • Deddfu i wahardd gwerthu ceir a faniau petrol a disel newydd cyn dyddiad y Deyrnas Unedig, sef 2030.
  • Ateb holl alw Cymru am drydan drwy drydan adnewyddadwy erbyn 2030.
  • Cynhyrchu dim ond trydan adnewyddadwy erbyn 2035.

Wedi’n hysbrydoli gan darged Cyngor Dinas Caerdydd i’r brifddinas ddod yn garbon niwtral erbyn 2025, byddwn ni’n lansio Cronfa Her i ddinasoedd, trefi a chymunedau sy’n ceisio dod yn arloeswyr carbon yng Nghymru drwy gyrraedd niwtraliaeth carbon cyn 2035.

Argyfwng Hinsawdd: darllen mwy