Natur a’r Amgylchedd

Rydyn ni’n ymrwymo i adael yr amgylchedd naturiol mewn cyflwr gwell, gan adeiladu tuag at adfer pob cynefin posib.

Byddwn ni’n cyflwyno Deddf Natur i osod dyletswydd statudol a thargedau i adfer bioamrywiaeth yn amgylcheddau’r tir a’r môr.

Bydd Cynllun Natur Cenedlaethol hirdymor yn cyflwyno mantolen cyfalaf naturiol genedlaethol, gyda chynigion ar gyfer enillion cyfalaf a chynhaliaeth gyda gwariant, a phroses archwilio annibynnol wedi’i nodi’n glir. Byddwn ni’n buddsoddi mewn diogelu a datblygu rhwydwaith eang o safleoedd bywyd gwyllt, gyda ffocws penodol ar wella safleoedd gwarchodedig presennol.

Byddwn ni’n cynyddu cyllideb gorfodi amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru. Byddwn ni’n sicrhau bod dirwyon yn ddigonol er mwyn atal mwy o lygredd. Byddwn ni’n defnyddio datblygiadau newydd ym maes technoleg ddigidol i fesur datgoedwigo, colli cynefinoedd, amrywiaeth genetig a biolegol, ansawdd pridd, a glendid dŵr afon a’r môr yn rheolaidd ac yn gywir. Bydd hyn yn ein helpu i fonitro cynnydd a gwella effeithiolrwydd gwaith gorfodi.

Bydd ein Deddf Natur hefyd yn cau’r bwlch llywodraethu amgylcheddol sydd wedi’i greu drwy ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, drwy sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol ar gyfer Cymru.

Byddwn ni’n buddsoddi yn y gwaith o ddatblygu rhwydwaith eang o safleoedd bywyd gwyllt, gyda ffocws penodol ar wella safleoedd gwarchodedig presennol.  Yn ogystal, bydd sicrhau y bydd gofod gwyrdd o ansawdd da o fewn pum munud ar droed i bob cartref yng Nghymru yn flaenoriaeth gan y Llywodraeth. Byddwn ni’n defnyddio’r system gynllunio i sicrhau bod gofodau gwyrdd naturiol yng nghymunedau pobl yn hawl sylfaenol; mae hyn yn hanfodol ar gyfer ein hiechyd corfforol a’n hiechyd meddwl, ac er mwyn adfer natur.

Byddwn ni’n gwella ac yn ymestyn ardaloedd gwarchodedig morol Cymru, a byddwn ni’n ymchwilio i greu Parc Cenedlaethol y Môr ym Mae Ceredigion a’r Môr Celtaidd. Bydd ein hymagwedd yn cynnwys yr holl randdeiliaid ac yn ystyried cynaliadwyedd diwydiant pysgota Cymru.

Fel blaenoriaeth, yn ein blwyddyn gyntaf yn y Llywodraeth, byddwn ni’n cyflwyno Deddf Aer Glân i Gymru er mwyn diogelu, drwy ddeddf, iechyd ein dinasyddion a’n hecosystemau rhag llygryddion yn ein hatmosffer.

Bydd ariannu Cyfoeth Naturiol Cymru a’n Parciau Cenedlaethol yn adlewyrchu’r rôl allweddol sydd ganddyn nhw i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

Argyfwng Hinsawdd: darllen mwy