Coedwigaeth

Bydd ail-goedwigo Cymru yn nod cenedlaethol. Byddwn ni’n datblygu cynllun gweithredu ac yn ei roi ar waith i sicrhau bod coed yn llenwi o leiaf 20 y cant o ardaloedd trefol, bydd hyn yn cynnwys cryfhau goruchwyliaeth reoleiddiol i ddiogelu gofodau gwyrdd, yn ogystal bydd angen trwydded arbennig i gwympo coed, a bydd angen plannu coed ychwanegol yn eu lle.

Mae ein targed ar gyfer creu coedwigoedd yn cynnwys plannu 100,000 hectar o goetir cymysg bob degawd yng Nghymru, gan arwain at gynnydd o 300,000 hectar erbyn 2050.

Byddwn ni’n sicrhau gwaith rheoli gweithredol gwell o goetiroedd newydd a phresennol, er mwyn gwella cynefin bywyd gwyllt a phlanhigion, ac i sicrhau ein bod ni’n plannu detholiad amrywiol o goed i ddiogelu yn erbyn plâu ac afiechydon newydd gydag ymagwedd ‘y goeden gywir yn y lle cywir’ wrth adfer coedwigoedd.

Bydd yr ymagwedd ‘gwrychoedd a lleiniau’ yn chwarae rhan allweddol yn helpu i gyflawni ein targedau, a byddwn ni’n gweithio gyda ffermwyr a rheolwyr tir, fel rhan o’u rôl amaeth-amgylcheddol, i ymestyn cynefinoedd gwrychoedd, lleiniau cysgodi, ochr nentydd ac ymylon caeau.

Bydd ein huchelgais o ran coedwigaeth yn ymestyn i foroedd Cymru, gyda choedwigoedd gwymon a dolydd morwellt yn cyfrannu at ein targedau bioamrywiaeth a lleihau carbon. Byddwn ni’n gwneud Cymru yn genedl lle nad oes datgoedwigo, drwy weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddeddfu er mwyn rhoi diwedd ar fewnforio nwyddau sydd wedi achosi datgoedwigo. Byddwn ni hefyd yn cyflwyno targedau dim datgoedwigo ym mholisi caffael Cymru fel rhan o’n trosglwyddiad i ddefnyddio nwyddau cynaliadwy sydd wedi’u cynhyrchu’n lleol.

Argyfwng Hinsawdd: darllen mwy