Llifogydd ac Afonydd

Byddwn ni’n rhoi mwy o bwyslais ar atal llifogydd mewn canllawiau cynllunio, gan gydnabod y bydd newid hinsawdd yn gwneud digwyddiadau llifogydd difrifol yn fwy tebygol yn y dyfodol.

Byddwn ni:

  • Yn darparu safon wydnwch genedlaethol yn erbyn llifogydd, gyda thebygolrwydd blynyddol o 0.5 y cant erbyn 2050. Byddwn ni’n gofyn i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru gyflwyno ei asesiad o’r buddsoddiad sydd ei angen i gyflawni’r targed hwn.
  • Yn ymrwymo i gynyddu lefel y buddsoddiad mewn rheoli llifogydd, gan gynnwys rheoli llifogydd naturiol, i £500 miliwn dros gyfnod y Senedd hon.
  • Yn diwygio rheoliadau cynllunio i sicrhau bod pob datblygiad newydd yn wydn yn erbyn llifogydd, gyda thebygolrwydd blynyddol o 0.5 y cant am ei oes, ac nad yw’n cynyddu risg mewn mannau eraill.
  • Yn gofyn i Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol gyflwyno cynlluniau wedi’u diweddaru ar gyfer eu hardaloedd

Byddwn ni’n sicrhau bod cyfrifoldeb awdurdodau perthnasol dros reoli llifogydd wedi’i nodi’n glir. Byddwn ni’n gweithio gydag awdurdodau lleol i nodi’r cymdogaethau hynny sydd mewn perygl uchel o lifogydd, ynghyd â’r rhai sydd â chyfran uchel o breswylwyr sy’n agored i niwed. Byddwn ni’n gweithio gyda’r cymunedau hyn fel blaenoriaeth i ddatblygu ac i ariannu cynlluniau cymunedol ar gyfer atal ac addasu i’r hinsawdd, gan gynnwys datrysiadau ar sail natur.

Gan weithredu drwy Gyfoeth Naturiol Cymru, byddwn ni’n creu rhwydwaith o weithredwyr systemau afonydd, a fydd yn gyfrifol am bob un o’r dalgylchoedd afonydd, i atal llygredd a chydlynu buddsoddiad mewn gwaith rheoli llifogydd naturiol amgen.

Rydyn ni’n ymrwymo i gynnal ymchwiliad cyhoeddus ar lifogydd i ddysgu gwersi gan y llifogydd sylweddol a ddigwyddodd ledled Cymru yn 2020 ac i weithredu ar ei argymhellion.

Argyfwng Hinsawdd: darllen mwy