Wynebu’r Argyfwng Hinsawdd a Natur

Wynebu’r Argyfwng Hinsawdd a Natur yw her ein cyfnod, ac ar sail hyn y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn ein beirniadu fwyaf. Oni bai bod llywodraethau ledled y byd yn camu i’r adwy, bydd digwyddiadau tywydd anghyffredin yn dod yn gyffredin, bydd newidiadau eithafol i’n hinsawdd yn effeithio ar y rhai mwyaf difreintiedig, a bydd ein byd natur yn dioddef niwed na fydd modd ei ddadwneud.

Er mwyn cymryd newid hinsawdd o ddifrif, mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â’r mater ar draws sawl maes, a’i wreiddio wrth galon penderfyniadau ar bob lefel o lywodraeth. Bydd mynd i’r afael â’n heffaith niweidiol ar y blaned yn gyfrifoldeb casgliadol ar y llywodraeth gyfan, dan arweiniad Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, fydd â’r cyfrifoldeb uniongyrchol cyffredinol.

Byddwn ni’n sicrhau bod pob cyllideb adrannol yn y Llywodraeth yn ymroddedig i adfer yr hinsawdd a natur. Drwy hyn, bydd pob Gweinidog yn buddsoddi ac yn gwreiddio natur mewn penderfyniadau a fydd, yn y pen draw, yn darparu ar gyfer pawb – o benderfyniadau iechyd hyd at gynllunio llywodraeth leol. Bydd ein llywodraeth hefyd yn adolygu’r gyllideb gyfan er mwyn sicrhau bod yr adnoddau a ddyrennir i ddatgarboneiddio ac adfer natur yn cyfateb i’r angen dybryd, ac yn adlewyrchu ein huchelgais.

Bydd gofyn i awdurdodau lleol leihau Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (carbon deuocsid, methan, ac ocsid nitraidd) yn eu hardal drwy osod cyllidebau Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr lleol. Dylai cynlluniau pensiwn llywodraeth leol ddadfuddsoddi o danwydd ffosil, a chydweithio gyda Phartneriaeth Pensiwn Cymru i nodi cyfleoedd ail-fuddsoddi addas.

O dan ymbarél y Banc Datblygu ac ar y cyd â’r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol, byddwn ni’n creu Banc Seilwaith Cenedlaethol i Gymru. Bydd hyn yn ariannu’r gwaith o gynhyrchu a storio ynni adnewyddadwy ar gyfer adeiladau cyhoeddus, tai, a gweithleoedd. Bydd yn cynnig credyd ar gyfer cwmnïau cydweithredol a chyfleustodau ynni lleol, fel bod modd i gymaint o’r seilwaith hwn â phosib fod dan berchnogaeth ddemocrataidd ar lefel leol.

Argyfwng Hinsawdd: darllen mwy