Byrddau Iechyd Newydd ar gyfer y gogledd

Roedd Bwrdd Iechyd y Gogledd o dan Fesurau Arbennig am fwy na phum mlynedd. Mae’n rhy fawr, mae’n cyflogi gormod o ymgynghorwyr rheoli a staff asiantaeth, ac mae ganddo gydberthnasau gwael gyda’r undebau. Byddwn ni’n ei ddisodli gyda dau Fwrdd newydd.

Bydd un ar gyfer y gogledd orllewin, gydag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Bangor yn ganolog iddo, a fydd yn anelu i fod yn arweinydd y byd ym maes meddygaeth wledig. Bydd y llall, ar gyfer y gogledd ddwyrain, yn canolbwyntio ar driniaeth ddewisol, yn sefydlu canolfan ar gyfer rhagoriaeth nyrsio mewn partneriaeth â Phrifysgol Glyndŵr, ac yn datblygu gwasanaethau arbenigol sy’n aml yn gorfod cael eu contractio allan i Loegr.

Iechyd a Gofal: darllen mwy