Llywodraethu Gwell a Hawliau Cleifion a Gofalwyr

Byddwn ni’n cyflwyno Siarter Hawl i Ofal, a fydd yn gosod disgwyliadau cenedlaethol o ran amseroedd aros am driniaeth, a’n haddewid hirsefydlog i fod â gwasanaethau hanfodol fel mamolaeth ac achosion brys o fewn pellter rhesymol i gartrefi pobl.

Byddwn ni’n diwygio gwaith llywodraethu a rheoleiddio cyrff iechyd yng Nghymru, i roi mwy o bwyslais ar fod yn agored, ymgysylltiad a ffydd y cyhoedd, canlyniadau’r cleifion, a gwerth i’r cyhoedd. Mae angen bod yn fwy agored a thryloyw wrth gyhoeddi data a gwybodaeth am iechyd, a dylid ei roi ar gael yn hawdd i’r cyhoedd. Dylai cleifion a theuluoedd fod â hawl i gael gwrando ar bwyllgorau adolygu mewnol.

Mae angen eiriolwyr cleifion i helpu cleifion a gofalwyr i ymdrin a dal y GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill, fel nawdd cymdeithasol, addysg, awdurdodau lleol a darparwyr tai, i gyfrif.

Byddwn yn sefydlu corff rheoleiddio ar gyfer rheolwyr y GIG, a fydd yn gyfrifol am osod cymwyseddau a datblygiad proffesiynol i reolwyr y GIG, a bydd ganddyn nhw’r gallu i gosbi perfformiad gwael.

Iechyd a Gofal: darllen mwy