Gwasanaeth Iechyd a Gofal Gwladol

Un o lwyddiannau mwyaf yr 20fed Ganrif oedd creu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, fel na ddylai salwch, damweiniau nac afiechydon arwain at fygythiad o fynd i ddyled ariannol.

Mae Plaid Cymru’n credu bod angen yr un dull arnon ni ar gyfer gofal personol. Boed hynny oherwydd oedran, anabledd, salwch dros dro, neu gyflwr cronig, bydd angen cymorth gyda bywyd bob dydd ar lawer ohonon ni. Mae’n bosib y bydd angen gofod diogel i fyw ynddo a gofal parhaol ar rai ohonon ni. Ein huchelgais yw bod gofal personol am ddim pan fo’i angen.

Er bod angen mwy o fuddsoddiad yn ein gwasanaethau, gall Cymru fod yn falch iawn o’r gwasanaethau gofal a gynigir ar hyn o bryd i bobl sy’n byw gartref ac mewn gofal preswyl. Yn achos y rhai ohonon ni sy’n derbyn gofal gan y gwasanaethau hyn, neu sydd ag anwyliaid yn y sefyllfa hon, dydy ymroddiad y staff yn ddim byd newydd i ni, ond mae COVID-19 wedi agor llygaid llawer o bobl eraill i’r gwaith caled, y dyfeisgarwch a’r heriau a wynebir wrth ddarparu cymorth gofal yn y cartref, gofal nyrsio yn y gymuned, ac ansawdd bywyd i breswylwyr mewn cartrefi gofal. Ein huchelgais yw sicrhau bod y rhai sy’n gweithio ym maes gofal yn cael eu gwobrwyo a’u cydnabod fel maen nhw’n ei haeddu, a bod ganddyn nhw’r hunan-reolaeth a’r cyllid i ddarparu gwasanaethau gofal o ansawdd uchel y gallan nhw fod yn falch ohono.

Mae’n peri pryder i bobl pan fyddan nhw’n gorfod aros yn yr ysbyty neu ddioddef pan fydd gwasanaethau’n dadlau a yw’r anghenion gofal yn fater ‘cymdeithasol’ neu ‘iechyd’, a phwy fydd yn talu am y pecyn gofal. Mae’r system bresennol yn annerbyniol ac allwn ni ddim o’i hamddiffyn.

Pam ddylai person â dementia sydd angen cymorth gofal personol 24 awr y dydd er mwyn mynd i’r tŷ bach, symud i atal briwiau pwysedd, cymorth gyda bwydo ac yfed, glywed nad yw eu hanghenion yn anghenion gofal iechyd, ac nad oes cyllid gan y GIG ar gael?

Bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn cymryd y camau canlynol i gyflawni ein gweledigaeth:

  • Byddwn ni’n sefydlu Comisiwn i archwilio ffyrdd y gallwn gyrchu arian ychwanegol i ariannu’r gwaith o greu Gwasanaeth Iechyd a Gofal Gwladol di-dor, sydd am ddim pan fo’i angen. Bydd y Comisiwn yn adrodd mewn blwyddyn, ac yn ystyried yr opsiwn a ffefrir gan Blaid Cymru, sef defnyddio trethiant cyffredinol. Bydd hefyd yn ystyried Cronfa Gofal Cymdeithasol ar sail ardoll, yn debyg i’r hyn a awgrymwyd gan Gerald Holtham.
  • Bydd ein Gwasanaeth Iechyd a Gofal Gwladol newydd yn sefydlu fframweithiau cenedlaethol ar gyfer darparu pob agwedd ar iechyd a gofal, ac ar gyfer integreiddio’n ddi-dor i ddarparu ar lefel leol, gan ddod â llywodraeth leol a byrddau iechyd ynghyd mewn Partneriaethau Gofal Rhanbarthol newydd.
  • Diwygio’r broses asesu gofal er mwyn iddi ganolbwyntio ar nodi angen gofal personol, n hytrach na bod yn seiliedig ar ddiffiniad mympwyol o ‘iechyd’ neu ‘ofal cymdeithasol’.
  • Gosod ein disgwyliadau cenedlaethol ar gyfer y cyfraniad byw unigol (neu gostau ‘gwesty’) angenrheidiol – ac yn bwysicach fyth, gosod cerrig milltir cenedlaethol ar gyfer lleihau neu gael gwared ar yr agwedd hon.
  • Buddsoddi yn ystod ac ansawdd y gofal yn y gymuned, drwy ymestyn Adran 25B Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i gynnwys nyrsio cymunedol, a chynyddu nifer y nyrsys ardal a’r nyrsys sydd â gradd meistr gymunedol.
  • Byddwn ni’n gweithio gyda darparwyr i sicrhau bod tâl, telerau ac amodau gweithwyr gofal yn cael eu cynyddu i fod yn gyson â rhai staff y GIG, gan ddechrau gyda gwneud lleiafswm cyflog o £10 yn orfodol ar gyfer pob darparwr gofal sy’n cael arian cyhoeddus a mynd i’r afael â chyflog salwch.
  • Codi proffil a statws nyrsys a gofal nyrsio mewn cartrefi gofal, drwy gynyddu lleoliadau myfyrwyr nyrsio mewn cartrefi gofal, ochr yn ochr â datblygu llwybrau gyrfaol i swyddi arbenigol ac ymgynghorol ym meysydd gofal Pobl Hŷn, Atal a Rheoli Heintiau, a gofal dementia.

Iechyd a Gofal: darllen mwy