Deintyddiaeth

Mae llawer o bobl wedi methu gwasanaethau rheolaidd ac ataliol yn ystod argyfwng y coronafeirws. Gyda llawer o ardaloedd gwledig hefyd yn colli deintyddfeydd y GIG, bydd argyfwng iechyd y geg ar draws y genedl, lle bydd angen cymryd camau ar frys. Felly, byddwn:

  • Yn lansio ymgyrch recriwtio i ddenu deintyddion yn ôl i weithio i’r GIG, ac yn ail drafod contractau i wneud gwaith o’r fath yn fwy deniadol yn ariannol.
  • Yn adeiladu ar y penderfyniad i sefydlu Uned Hyfforddi ar gyfer y gogledd ym Mhrifysgol Bangor, er mwyn ei gwneud yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer hyfforddiant deintyddiaeth ar gyfer Cymru gyfan.
  • Yn adfer unedau deintyddion symudol ar gyfer cefn gwlad, gan ddod â gwasanaethau deintyddol i gymunedau sydd wedi cael anhawster yn eu cyrraedd yn y gorffennol.
  • Yn cynnal adolygiad o’r ffioedd deintyddol mae cleifion yn eu hwynebu, gan bennu i ba raddau mae hyn yn gweithredu fel rhwystr rhag cael triniaeth, ac yn ystyried ystod o opsiynau i ddisodli’r ffioedd hyn i annog pobl i fynd at y deintydd er mwyn atal pydredd dannedd yn nes ymlaen.

Iechyd a Gofal: darllen mwy