Cydraddoldeb yn Iechyd y Cyhoedd

Mae’r twf mewn disgwyliad oes yng Nghymru wedi arafu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae anghydraddoldebau iechyd wedi cynyddu. Mae modd gweld yn barod mai’r cymunedau tlotaf sydd wedi’u taro waethaf gan COVID-19. Mae gormod o bobl yng Nghymru yn cael eu hatal rhag gweithio, gofalu, a mwynhau bywyd oherwydd iechyd corfforol ac iechyd meddwl gwael.

Cydraddoldeb Iechyd fydd y nod i Lywodraeth Plaid Cymru – gyda chamau i wella mynediad at ofal i bawb, ac ehangu cyfleoedd ar gyfer ymarfer corff. Byddwn ni:

  • Yn annog mynd am dro a beicio, gan ganolbwyntio’n benodol ar hygyrchedd ar gyfer grwpiau anabl. Bydd buddsoddiad mewn pafinau gwell, cyrbiau isel, tai bach cyhoeddus a meinciau, ac mewn gwella hygyrchedd i’r cyhoedd at gyfleusterau fel parciau, a thrafnidiaeth gyhoeddus bysiau a rheilffyrdd. Bydd rheoliadau cynllunio i gefnogi hygyrchedd yn cael eu cryfhau.
  • Yn buddsoddi yn y Gwasanaethau Ieuenctid a Chanolfannau Ieuenctid ym mhob ardal – gan sicrhau eu bod yn cynnwys gweithwyr proffesiynol sy’n cynnig cyngor iechyd meddwl a chyngor iechyd rhyw.
  • Yn cynyddu mynediad at wasanaethau iechyd rhyw, a gwybodaeth, profion, a thriniaeth gynnar.
  • Yn gweithio gyda chyflogwyr mawr yn y sector cyhoeddus, fel y GIG a llywodraeth leol, i sicrhau bod gan staff fynediad at wasanaeth iechyd galwedigaethol a chyfleusterau hamdden a chwaraeon – a byddwn ni’n gweithio gyda darparwyr busnesau i weld sut gellir ehangu’r mynediad hwn i weithwyr busnesau bach a chanolig.
  • Yn ei gwneud yn ofynnol bod pob ysgol yn cyflawni’r gofyniad bod plant yn cael cyfle i wneud o leiaf ddwy awr o ymarfer corff yr wythnos.
  • Yn sicrhau bod sefydliadau ôl-16 yn darparu cyfleusterau chwaraeon a hamdden ac yn annog cyfranogiad gan fynychwyr.
  • Yn annog ac yn ehangu ar ragnodi cymdeithasol – fel garddio, cerdded a nofio – a byddwn yn hyrwyddo cyfranogiad mewn gweithgarwch cymunedol.
  • Yn annog bwyta’n iach drwy fonitro mynediad at fwyd iach yn y cymunedau mwyaf difreintiedig, gan sicrhau bod coginio ar y cwricwlwm, ac archwilio’r opsiwn o gyflwyno deddfwriaeth ar gyfer Treth Bwyd Sothach.
  • Yn fflworideiddio cyflenwad dŵr Cymru i greu lleihad o 25 y cant mewn ceudodau yn nannedd plant.

Byddwn ni’n anelu i roi diwedd ar drosglwyddo HIV yng Nghymru. Byddwn ni:

  • Yn cynyddu mynediad at wasanaethau iechyd rhyw, gwybodaeth, profion, a thriniaeth gynnar.
  • Yn ariannu mynediad at broffylacsis cyn gysylltiad (PrEP).
  • Yn cefnogi addysg, ymchwil a grwpiau cymunedol sy’n brwydo yn erbyn AIDS.

Iechyd a Gofal: darllen mwy