Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn Oes Ddigidol

Mae sector iechyd Cymru wedi methu â manteisio ar lawn botensial technoleg ddigidol. Byddwn ni’n cyflwyno’r nod y bydd Cymru’n arweinydd yn y don nesaf o ddigideiddio gofal iechyd. Byddwn ni’n creu cronfa arloesedd digidol i greu apiau therapiwtig digidol ar gyfer y prif gyflyrau iechyd, er mwyn rhoi’r Gwasanaeth Iechyd a Gofal Gwladol ym mhoced pawb erbyn 2025.

Byddwn ni’n buddsoddi mewn technoleg ddigidol newydd i sicrhau bod systemau technoleg gwybodaeth yn gydnaws, a bod pawb yng Nghymru’n gallu trefnu apwyntiad gyda Meddyg Teulu ar-lein.

Iechyd a Gofal: darllen mwy