Gwasanaethau Gofal Arbenigol

Mae sawl maes o ofal arbenigol yng Nghymru sydd wedi cael eu hesgeuluso, a bydd angen cynlluniau strategol penodol ar gyfer buddsoddi. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys gofal newyddenedigol, lle mae pobl yng Nghymru wedi gorfod dewis rhwng gorweithio staff presennol neu gau gwasanaethau ers llawer yn rhy hir. Enghraifft arall yw gwasanaethau gofal diwedd oes, lle mae angen buddsoddi mewn gofal hosbis a gofal diwedd oes yn y gymuned. Ar hyn o bryd, mae “COVID hir” yn dod i’r amlwg fel cyflwr lle bydd angen sylw cenedlaethol i sicrhau bod y gwasanaethau cywir ar waith ar gyfer y rhai sy’n dioddef.

Bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn sicrhau bod yr holl feysydd hyn yn cael sylw strategol, a bod llinell atebolrwydd genedlaethol glir i wella gwasanaethau ledled Cymru.

Iechyd a Gofal: darllen mwy