Mynediad at Ofal

Caiff anghydraddoldebau iechyd eu creu a’u gwaethygu pan fydd cymunedau’n methu â chael mynediad at wasanaethau gofal. Mae angen i ni feddwl yn ofalus ac yn greadigol am sut rydyn ni’n siapio ein gwasanaethau i addasu at anghenion y boblogaeth, yn hytrach na disgwyl i bobl ymdrechu i addasu i’r gwasanaeth, a’u beio nhw pan na allan nhw wneud hynny.

Mae Trafnidiaeth Gyhoeddus yn enghraifft amlwg o hyn – os nad oes llwybr bysiau yn mynd heibio i’r ysbyty, sut mae disgwyl i bobl heb gar deithio yno? Mae canoli gwasanaethau iechyd heb gynllunio ar gyfer yr angen hwn yn annerbyniol.

Mae Mynediad Ar-lein at wasanaethau yn gynyddol bwysig. Mae llawer o bobl eisoes wedi elwa ar y gallu i gael ymgynghoriad â’r Meddyg Teulu dros y ffôn, neu adnewyddu eu presgripsiwn ar-lein. Serch hynny, mae angen i ni sicrhau bod gan bob cymuned fynediad at y math hwn o dechnoleg, a’r sgiliau i’w defnyddio, ac na chaiff neb eu gadael ar ôl.

Byddwn ni’n creu cronfa arloesedd digidol i greu apiau therapiwtig digidol ar gyfer y prif gyflyrau iechyd, er mwyn rhoi’r Gwasanaeth Iechyd a Gofal Gwladol ym mhoced pawb.

Ymhlith y meysydd eraill sydd angen eu hystyried mae pa mor hygyrch yw ein gwasanaethau gofal i gymunedau anabl, fel y rhai sydd â nam ar eu clyw neu eu golwg. Mae angen cymorth ar grwpiau fel y rhai ag anableddau dysgu i gael mynediad at wasanaethau, ac mae cymunedau fel y gymuned LHDT yn adrodd am brofiadau annymunol o gamddealltwriaeth a rhagfarn.

Iechyd a Gofal: darllen mwy