Arloesedd ac Entrepreneuriaeth

Wrth galon ein strategaeth economaidd mae ein nod o amrywio ein heconomi, gan lansio busnesau newydd mewn ardaloedd newydd. Mae hyn yn golygu y bydd gyrru lefelau arloesedd ac entrepreneuriaeth yn hanfodol.

Byddwn yn buddsoddi mewn creu diwylliant o greadigrwydd, menter ac arloesedd ym mhob sector – cyhoeddus, preifat, ac nid-er-elw – ac ym mhob rhan o fywyd.

Byddwn ni’n cefnogi creu Clystyrau Arloesi Diwydiannol, lle bydd gan bob clwstwr gorff arweiniol pwrpasol i ddatblygu Mapiau Ffordd Trawsnewid Diwydiannol.

Byddwn ni’n creu Corff Arloesi Cenedlaethol, i ddisodli Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi a Chyngor y Prif Gynghorydd Gwyddoniaeth, i ddod yn brif gorff a fydd yn arwain ac yn cydlynu System Arloesi Cymru, gan ganolbwyntio ar flaenoriaethau economaidd, amgylchedd, a chymdeithasol Cymru. Byddwn ni’n gosod y nod uchelgeisiol o gynyddu buddsoddiad busnesau mewn ymchwil a datblygu bob blwyddyn tan iddo gyrraedd cyfartaledd y Deyrnas Unedig, a chynyddu cyfran Cymru o gyllid ymchwil a datblygu cyhoeddus y Deyrnas Unedig.

Economi: darllen mwy